Hyfforddiant Diogelu Uwch – Diogelu Plant 22/05 + 23/05 – Heath, Caerdydd
Ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin sy’n dal y swyddi canlynol: Arweinydd y lleoliad • Rheolwyr • Y person â chyfrifoldeb • Gwarchodwyr plant • Y person diogelu dynodedig • Unigolion cyfrifol • Y person cofrestredig
Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer unigolion Grŵp C.
Cwrs lefel uwch yw hwn ar gyfer helpu unigolion i gynyddu’r wybodaeth am brosesu diogelu sydd ganddynt eisoes, ac i ddeall y broses ddiogelu yn fanylach. Mae’n gwrs dau ddiwrnod.
Bydd yr hyfforddiant yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau i helpu adolygu a datblygu’r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyflawni eu rôl a’u cyfrifoldeb i ddiogelu plant.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- pynciau sy’n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â’r rhain,
- deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy’n sail i bolisi lleoliadau ynghylch diogelwch a lles plant,
- rolau i’w cyflawni yn y broses diogelu plant aml-asiantaeth, gan gynnwys cynadleddau achos
- darparu adroddiadau ysgrifenedig.
Pris yn cynnwys cinio. Ni roddir ad-daliadau am fethu a mynychu. Bydd tystysgrif electroneg i bawb sy’n cwblhau’r hyfforddiant.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Hyfforddiant Diogelu Uwch – Diogelu Plant 22/05 + 23/05 - Heath, Caerdydd
- Dyddiad Cau: 2024-05-22
- Amser: 10:00 - 14:30
- Lleoliad: Cwrs wyneb yn wyneb
- Cyfeiriad: Canolfan All Nations Centre, Heath, Caerdydd. CF14 3NY