Hyfforddiant Diogelu Plant- Ar-lein – Grwp C – 01, 08 a 14 Gorffennaf
Hyfforddiant gyda Jane Ashman
Mi fydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno ar 3 diwrnod ar wahân, bydd angen i gyfranogwyr fynychu’r tri diwrnod er mwyn cwblhau’r hyfforddiant.
01, 08 a 14 Gorffennaf 2025
10 – 1:30yp
Cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cwrs ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin sydd yn:
Arweinydd y lleoliad • Rheolwyr • Y person â chyfrifoldeb • Gwarchodwyr plant • Y person diogelu dynodedig • Unigolion cyfrifol • Y person cofrestredig
Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer unigolion Grŵp C.
Cwrs lefel uwch yw hwn ar gyfer helpu unigolion i gynyddu’r wybodaeth am brosesu diogelu sydd ganddynt eisoes ac i ddeall y broses ddiogelu yn fanylach.
Bydd yr hyfforddiant yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau i helpu adolygu a datblygu’r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyflawni eu rôl a’u cyfrifoldeb i ddiogelu plant.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Pynciau sy’n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â’r rhain,
- Deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy’n sail i bolisi lleoliadau ynghylch diogelwch a lles plant,
- Rolau i’w cyflawni yn y broses diogelu plant aml-asiantaeth, gan gynnwys cynadleddau achos
- Darparu adroddiadau ysgrifenedig.
Bydd tâl o £40 am fynychu’r hyfforddiant. Ni roddir ad-daliadau am fethu a mynychu. Bydd tystysgrif electroneg i bawb sy’n cwblhau’r hyfforddiant.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Hyfforddiant Diogelu Plant- Ar-lein - Grwp C - 01, 08 a 14 Gorffennaf
- Dyddiad Cau: 2025-07-01
- Amser: 10:00 - 13:30
- Lleoliad: Ar-lein