Positifrwydd yn y Gweithle
Positifrwydd yn y Gweithle
O dan arweiniad Rhyl City Strategy
Addas i: Arweinyddion a Rheolwyr Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd
Ydych chi’n chwilio am ffyrdd o feithrin gweithle sy’n gadarnhaol a chynhyrchiol?
Bwriad y sesiwn hon yw eich darparu ag adnoddau a gwybodaeth i greu gweithle lle gall pawb ffynnu. Cewch arweiniad ar sut i adeiladu a chynnal ymddiriedaeth o fewn eich tîm, yn ogystal â rhoi hwb i fodlonrwydd eich gweithwyr.
Pigion y sesiwn:
- Deall y prif elfennau sy’n cyfrannu tuag at amgylchedd gwaith positif.
- Dysgwch am nodweddion gweithle iach a chymhellol.
- Dysgwch sut i adnabod arwyddion amgylchedd gwaith gwenwynllyd a sut i fynd i’r afael â hwy.
- Darganfyddwch sut i greu man diogel lle mae gweithwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.
- Archwiliwch strategaethau er mwyn cadw eich gweithwyr gorau.
- Dysgwch sut i adeiladu a chynnal ymddiriedaeth o fewn eich tîm.
- Enillwch sgiliau er mwyn rheoli a lliniaru negyddiaeth a gweld bai mewn ffordd effeithiol.
- Datblygwch gynllun gweithredu eglur er mwyn cynnal amgylchedd gwaith positif.
Sesiwn Cymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd ar gael.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Positifrwydd yn y Gweithle
- Dyddiad Cau: 2026-03-04
- Amser: 18:00 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein