25
Chw

Sesiwn ‘Pawb yn Perthyn’

45 tocynnau ar ôl Am ddim

Sesiwn ‘Pawb yn Perthyn’ 

gyda Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru

Addas i: aelodau Mudiad Meithrin

I nodi Mis Hanes LHDTC+, bydd sesiwn ‘Pawb yn Perthyn’ gyda Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, yn cynnig cipolwg ar ddatblygiad llyfrau LHDTC+ yng Nghymru a’r daith y mae Cyngor Llyfrau wedi bod arni dros y blynyddoedd.

Bydd yn trafod sut y gall cynrychiolaeth deg a chynhwysol mewn llyfrau plant a phobl ifanc siapio profiadau darllen, meithrin empathi, a chreu ymdeimlad o berthyn i bawb.

Sgwrs onest a phwysig am lenyddiaeth, gwelededd, a rôl llyfrau wrth adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.

Sesiwn yn Gymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd.

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Sesiwn 'Pawb yn Perthyn'

  • Dyddiad Cau: 2026-02-25
  • Amser: 12:30 - 13:15
  • Lleoliad: Ar-lein