Y Broses sy’n Cyfri: Pŵer Gwneud Marciau
Y Broses sy’n Cyfri: Pŵer Gwneud Marciau
o dan arweiniad y fenter greadigol Dwylo Bach
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Meithifenydd Dydd
**Mae’r cwrs wedi LLENWI erbyn hyn, ond byddem yn falch iawn o’ch rhoi ar y rhestr aros. Os hoffech ymuno, ychwanegwch eich enw ar y ffurflen hon: Rhestr Aros / Waiting List – Fill in form
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio pŵer gwneud marciau.
Nod yr hyfforddiant hwn yw tynnu sylw at bwysigrwydd annog plant ifanc i archwilio eu creadigrwydd yn annibynnol ac yn rhydd. Ein ffocws yw’r broses yn hytrach na’r cynnyrch terfynol, gan bwysleisio’r sgiliau a’r hyder y mae plant yn eu datblygu ar hyd y ffordd.
Mae gwneud marciau yn rhan hanfodol o ddatblygiad cynnar, gan helpu plant i adeiladu’r sylfeini ar gyfer ysgrifennu a meddwl dychmygus.
Er mwyn creu amgylchedd lle mae plant yn teimlo’n rhydd i archwilio eu creadigrwydd, byddwn yn trafod sut i:
- Ddarparu amrywiaeth o offer a deunyddiau
• Greu gofod croesawgar
• Werthfawrogi’r broses, nid y cynnyrch
• Arsylwi a chefnogi
Bydd cyfle i bawb sy’n mynychu ENNILL BOCS O ADNODDAU CREADIGOL, wedi’i baratoi gan Dwylo Bach, ar gyfer eich lleoliad!
Sesiwn Ddwyieithog.
Y Broses sy'n Cyfri: Pŵer Gwneud Marciau
- Dyddiad Cau: 2026-06-30
- Amser: 18:30 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein