04
Chw

Cyfres o Sesiynau DARPL i ARWEINWYR Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Cyfres o Sesiynau DARPL i Arweinwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

**Mae pob sesiwn yn LLAWN. Cyhoeddir mwy o ddyddiadau’n fuan.

Mae’r gyfres hon o sesiynau wedi’u hanelu at arweinwyr (rheolwyr, arweinwyr lleoliadau, gwarchodwyr plant, pwyllgorau rheoli gwirfoddol, perchnogion meithrinfa ac ati) mewn lleoliadau Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar. Mae creu diwylliant gwrth-hiliol yn eich lleoliad yn dechrau gydag arweinyddiaeth.

Trwy fynychu POB sesiwn, bydd gan arweinwyr gyfle i fyfyrio a thrafod:

  • sut i adnabod hiliaeth systemig a strwythurol o fewn ein cymdeithas
  • sut i greu diwylliant gwrth-hiliol o fewn eich lleoliad
  • sut i herio hiliaeth a gweithredu arfer gorau o ran polisi a gweithdrefn
  • sut i ddyfnhau eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth am arfer gwrth-hiliol

Trwy archebu lle, rydych yn ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan (sef 3 sesiwn):

04, 11 a 18 Chwefror 2025   

Bydd y 3 sesiwn hyn yn rhedeg o 6:30-8:30pm bob tro.

*Sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 


Cyfres o Sesiynau DARPL i ARWEINWYR Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

  • Dyddiad Cau: 2025-02-04
  • Amser: 18:30 - 20:30
  • Lleoliad: Ar-lein