Ydych chi’n arweinydd neu’n aelod o bwyllgor Cylch Meithrin?

Ydych chi eisiau cyngor ar faterion penodol?

Yn y syrjeris ar-lein hyn, cewch gyfle i siarad gyda’n timau arbenigol.

Bydd pob syrjeri yn cael ei chynnal ar-lein dros Zoom.

Bydd angen archebu slot amser penodol er mwyn medru cymryd rhan yn un o’r sesiynau.

Syrjeri 1- Ehangu eich cylch a chynyddu dilyniant i addysg Gymraeg

Bydd y syrjeri hon yn canolbwyntio ar ddau bwnc gwahanol y mae nifer o gylchoedd wedi’u codi yn ddiweddar. I ddechrau, bydd y syrjeri yn gyfle i holi am gyngor ynglŷn â sut gellid datblygu eich cylch; e.e. y camau sydd angen eu cymryd er mwyn medru cynnig sesiynau ychwanegol neu sut gellir sicrhau bod oriau’r cylch yn rhai sy’n ddeniadol i rieni. Yn ogystal, bydd y syrjeri yn gyfle i holi am gamau ymarferol y gall cylchoedd eu cymryd er mwyn annog mwy o rieni i ystyried danfon eu plant ymlaen i addysg cynradd cyfrwng Cymraeg.

Holwch ein tîm am gyngor.

Dewiswch un o’r dyddiadau canlynol:

Dyddiad Amser
23.01.2025 1:00-3:00pm

 

Dyddiad Amser
23.01.2025 6:30-8:30pm

Mae’r ffurflen gofrestru bellach wedi cau.

Syrjeri 2- Goblygiadau’r gyllideb i gylchoedd meithrin

A yw newidiadau’r gyllideb yn achosi cur pen i chi fel cylch? Angen sgwrs am y newidiadau diweddaraf?

Bydd y syrjeri hon yn gyfle i holi ein tîm am gyngor ynglŷn a beth ddylid ei wneud nawr.

Dewiswch un o’r dyddiadau canlynol:

Dyddiad Amser
28.01.2025 1:00-3:00pm

 

Dyddiad Amser
28.01.2025 6:00-8:00pm

Mae’r ffurflen gofrestru bellach wedi cau.