Dull neu ffordd o gyflwyno ail iaith i blant bach yw’r Dull Trochi. Daw’r enw o syniadau’r 1950au a 1960au pan welwyd cynnydd yn nifer o ysgolion meithrin (daeth yn gylchoedd meithrin ymhen amser) oedd â diddordeb yn y ffordd orau o ddarparu ar gyfer y plant hynny oedd yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Y mantra ar y pryd oedd ‘Boddwch nhw yn y Gymraeg’! Term ychydig yn ddramatig ac nid yn hollol dderbyniol heddiw efallai.