Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi enwau ymgeiswyr llwyddiannus cynllun ‘AwDUra’. Dyma gynllun newydd gennym er mwyn annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ‘sgwennu straeon i blant bach gyda chefnogaeth gan ddau enw mawr o fyd ‘sgwennu a chyhoeddi Cymru – Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros. Ein nod yw annog creu straeon i blant bach cymuned Mudiad Meithrin a thu hwnt. Y gobaith fydd cyhoeddi straeon gan leisiau newydd.
Dywedodd yr awdur Jessica Dunrod:
“Mae’n bleser mawr gennyf gydweithio gyda Mudiad Meithrin i gychwyn ar brosiect a fydd yn mynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg a’r diffyg cefnogaeth a chyfleoedd i lenorion Cymraeg. Roedd yn hynod o anodd i mi wneud fy llyfrau, heb sôn am adael i’r byd wybod fy mod wedi eu creu. Bydd y prosiect hwn yn sicrhau na fydd yr awduron Du a Brown nesaf yn ei chael hi mor galed ag y gwnes i ac rwyf wrth fy modd bod sefydliadau fel Mudiad Meithrin yn helpu i chwalu’r rhwystrau i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.”
Meddai’r awdur Manon Steffan Ros:
“Mae’n anrhydedd go iawn i mi gael bod yn rhan o brosiect AwDura. Ers cyn cof, mae Cymru wedi bod yn gartref i drawsdoriad eang iawn o bobol, ond tydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn ein diwylliant o gwbl, ac mae’n bryd unioni’r cam yma a chymryd camau positif ac adeiladol i sicrhau cynrychiolaeth teg yn ein llenyddiaeth. Gall hyn ond cyfoethogi ein diwylliant.”
Enw’r deg ymgeisydd llwyddiannus yw:










Byddant yn derbyn cefnogaeth i greu straeon i blant bach dros gyfnod o 4 mis a bydd Mudiad Meithrin yn ymrwymo i gyhoeddi gwaith dau o blith yr awduron newydd gan gefnogi pob un i barhau i greu.