Mae Donna Puw o’r Parc ger Bala wedi ennill gwobr arbennig Prentisiaethau Mudiad Meithrin sy’n cynnig hyfforddiant cydnabyddedig wedi’i achredu i bobl sy’n gweithio mewn sefydliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar megis Cylchoedd Meithrin a dosbarthiadau meithrin ledled Cymru.
Mae Donna wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn am ei gwaith yng Nghylch Meithrin Garn Bach Tryweryn.
Wrth ddyfarnu’r wobr iddi, meddai Rheolwr Cynllun Hyfforddi Mudiad Meithrin, Eunice Jones:
“Mae hi mor braf gallu gwobrwyo a dathlu gwaith caled unigolion fel Donna. Bydd ei phrofiad a’i hymdrech yn ysbrydoliaeth i eraill gobeithio”.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma –
Donna Puw