Mae Lowri Joyner o Landysul wedi ennill gwobr arbennig Prentisiaethau Mudiad Meithrin sy’n cynnig hyfforddiant cydnabyddedig wedi’i achredu i bobl sy’n gweithio mewn sefydliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar megis Cylchoedd Meithrin a dosbarthiadau meithrin ledled Cymru.
Mae Lowri wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn am ei gwaith yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul.
Wrth ddyfarnu’r wobr iddi, meddai Rheolwr Cynllun Hyfforddi Mudiad Meithrin, Eunice Jones:
“Mae hi mor braf gallu gwobrwyo a dathlu gwaith caled unigolion fel Lowri. Bydd ei phrofiad a’i hymdrech yn ysbrydoliaeth i eraill gobeithio”.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma –
Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam – Mudiad Meithrin
Lowri Joyner – Dysgwr y Flwyddyn 2022 – Prentisiaeth Gofal Plant Lefel 3
Lowri Joyner