Trwy ein gweithgareddau rydym yn cynnig taith rwydd i’ch plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg. Cynigiwn nifer o wahanol grwpiau i chi a’ch plentyn o’r crud i’r ysgol gan ddechrau gyda grwpiau Cymraeg i Blant > Cylch Ti a Fi > Cylch Meithrin.
Gan fod gennym 50 mlynedd o brofiad ym maes addysg a blynyddoedd cynnar, a thros 1,500 o staff cymwys a chyfeillgar yn gweithio yn ein Cylchoedd Meithrin ledled Cymru, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg blynyddoedd cynnar orau yn eich Cylch Meithrin lleol.
Yn y Cylch Meithrin bydd cyfle i’ch plentyn fwynhau cwmni plant eraill a dysgu trwy chwarae dan ofal staff cymwys, cyfeillgar a brwdfrydig.
Cliciwch yma i chwilio am eich Cylch Meithrin lleol chi.
Parhau gydag addysg Gymraeg yw’r cam nesaf o’r Cylch Meithrin.
Mae symud o Gylch Meithrin i addysg Gymraeg yn gam naturiol a phwysig i’ch plentyn er mwyn iddo barhau i fwynhau profiadau dysgu a chwarae cyfoethog trwy gyfrwng y Gymraeg.