Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru. Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r enillwyr a ddaeth i’r brig yn ein Seremoni Gwobrau ar ddydd Sadwrn 15fed Hydref.

Ar brynhawn Sadwrn 15fed Hydref fe ddathlodd Mudiad Meithrin eu Seremoni Gwobrau flynyddol yn Social 23 yn Y Drenewydd, Powys.

Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y cylchoedd a’r meithrinfeydd dydd ac roedd y gyflwynwraig deledu boblogaidd Mari Lövgreen yn cyflwyno’r seremoni mewn modd slic a phroffesiynol iawn.

Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:

“Roedd y Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar dros y flwyddyn a fu gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 500 o enwebiadau eleni ac mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad gan roi cyfle inni i gyd-ddathlu’r arfer dda sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru, dod at ein gilydd i wneud hynny.”

 

Enillwyr Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin 2022

 

Gwirfoddolwr

1af.      Rachael Freedman (Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae, Caerdydd)

2il.        Tegwen Brickley (Cylch Meithrin Corris, Gwynedd)

3ydd.   Michelle Davies (Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys)

 

Cylch i Bawb

1af.      Cylch Meithrin Machynlleth (Powys)

2il.        Cylch Meithrin Tŷ Mabon (Tywyn, Gwynedd)

3ydd.   Cylch Meithrin Penparc (Ceredigion)

 

Dewin a Doti

1af.      Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gâr

2il.        Cylch Meithrin Nelson, Caerffili

3ydd.   Cylch Meithrin Y Fro Llangyndeyrn, Sir Gâr

 

Cynorthwy-ydd

1af.      Donna Roberts (Cylch Meithrin Talwrn, Ynys Môn)

2il.        Ceri Lewis (Cylch Meithrin Llanrhaeadr ym Mochnant, Powys)

3ydd.   Lorraine Samuels (Cylch Meithrin Cefneithin Gorslas, Sir Gâr)

 

Ardal Chwarae a Dysgu Tu Allan

1af.      Cylch Meithrin Nantdyrys, Rhondda Cynon Taf

2il.        Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys

3ydd.   Cylch Meithrin Nelson, Caerffili

 

Pwyllgor

1af.      Cylch Meithrin Llangynnwr, Sir Gâr

2il.        Cylch Meithrin Beddau, Rhondda Cynon Taf

3ydd.   Cylch Meithrin Chwilog, Gwynedd

 

Gwobr Meithrinfeydd Cymru Cyf

1af.      Meithrinfa Camau Bach, Aberystwyth

2il.        Meithrinfa Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd

 

Meithrinfa Ddydd

1af.      Meithrinfa Hen Ysgol, Porthmadog, Gwynedd

2il.        Meithrinfa Cywion Bach, Caerfyrddin

3ydd.   Meithrinfa Plas Pawb Maesincla, Caernarfon

 

Arweinydd

1af.      Sioned Wyn Jones-Roberts (Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys)

2il.        Jayne Williams (Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gâr)

3ydd.   Abigail Gregson (Cylch Meithrin Cledlyn, Ceredigion)

3ydd.   Manon Paschalis (Cylch Meithrin Y Parc, Caerdydd)

 

Dysgu a Datblygu

1af.      Cylch Meithrin Llanhari, Rhondda Cynon Taf

2il.        Cylch Meithrin Crymych, Sir Benfro

3ydd.   Cylch Meithrin Cwmnedd, Castell-nedd Port Talbot

3ydd.   Cylch Meithrin Traed Bach Tywyn, Ynys Môn

 

Cylch Meithrin Bach

1af.      Cylch Meithrin Bwlchygroes, Sir Benfro

2il.        Cylch Meithrin Y Fro Llangyndeyrn, Sir Gâr

3ydd.   Cylch Meithrin Y Waun Ddyfal, Caerdydd

 

Cylch Ti a Fi

1af.      Cylch Ti a Fi Cilfynydd a Phont Norton, Rhondda Cynon Taf

2il.        Cylch Ti a Fi Croesoswallt, Sir Amwythig

3ydd.   Cylch Ti a Fi Pum Heol, Sir Gâr

3ydd.   Cylch Ti a Fi Y Fenni, Mynwy

 

Cylch Meithrin Talaith y De-Ddwyrain

1af.      Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae

2il.        Cylch Meithrin Beddau

3ydd.   Cylch Meithrin Diwlith

 

Cylch Meithrin Talaith y De-Orllewin

1af.      Cylch Meithrin Cledlyn

2il.        Cylch Meithrin Llangynnwr

3ydd.   Cylch Meithrin Ffynnonwen

 

Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Orllewin

1af.      Cylch Meithrin Llannerch-y-medd

2il.        Cylch Meithrin Tŷ Mabon, Tywyn

3ydd.   Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel

3ydd.   Cylch Meithrin Rhoscolyn

 

Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Ddwyrain

1af.      Cylch Meithrin Llangollen

2il.        Cylch Meithrin Bro Alun

3ydd.   Cylch Meithrin Y Llys

 

Cylch Meithrin Cymru

1af.      Grangetown a’r Bae

 

Dyma linc i ‘playlist’ fideos yr enillwyr – Enillwyr Gwobrau 2022 – YouTube