Cei gyfle i fwynhau amser un i un gyda dy fabi bach mewn awyrgylch gartrefol, ddiogel a Chymreig.
Rydym yn croesawu pawb â breichiau agored i’n grwpiau tylino babi.
Mae’r cwrs 6 wythnos yn canolbwyntio ar dylino gwahanol rannau o gorff dy fabi yn ogystal â dysgu hwiangerddi Cymraeg a geirfa syml i gyd-fynd gyda’r symudiadau.
Mae’r sesiynau yn addas i fabis hyd at 24 wythnos oed ac mae’n ffordd wych o fagu hyder yn y Gymraeg os nad wyt wedi defnyddio’r iaith ers dyddiau’r ysgol.
I gofrestru ar grŵp clicia yma