Fel Mudiad sy’n angerddol am roi’r cychwyn gorau i daith addysgol plant yng Nghymru, ac yn achub ar bob cyfle i ddathlu ein Cymreictod, mae’r Mudiad yn falch iawn o’r pecyn pêl-droed sydd wedi cael ei greu a’i gyflwyno i’r holl blant a’u teuluoedd yn ein gofal.
Ddiwedd Hydref fe ryddhawyd fideo o’r gân oedd wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Siani Sionc – Pob Lwc Cymru! i ddymuno’n dda i’r tîm, ynghyd â fideo ohoni’n darllen argraffiad arbennig o’r llyfr Dewin a Doti’n Helpu’n y Gêm Fawr. Fe anfonwyd 200 o gopïau o’r llyfr yma i Gyngor Llyfrau Cymru hefyd i’w ddosbarthu i lyfrgelloedd a banciau bwyd ledled Cymru.
Anfonwyd pecyn adnoddau arbennig at ein holl aelodau ddechrau Tachwedd a oedd yn cynnwys Pecyn Gweithgareddau Pêl-droed, taflen o sticeri, poster Pob Lwc Cymru! a chopi o’r llyfr Dewin a Doti’n Helpu’n y Gêm Fawr. Mae modd gweld a lawrlwytho’r adnoddau hyn i gyd ar dudalen arbennig a luniwyd ar ein gwefan www.meithrin.cymru/pel-droed
Rydym hefyd wedi partneru gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i rannu’r adnoddau hyn ar eu gwefan deunyddiau Cymraeg i deuluoedd sydd i’w gweld yma www.dysgucymraeg.cymru/pel-droed a bydd Clwb Cwtsh yn cynnal sesiynau arbennig yn cynnwys geirfa bêl-droed am ddim i bobl sydd am ddysgu’r Gymraeg.
Un o’r digwyddiadau a gynhaliwyd yn ein Grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd i ddymuno pob lwc i Dîm Cymru oedd gynnal Dis-Goch ar 16 Tachwedd – sef disgo gyda phawb yn gwisgo coch. Roedd hwn yn rhan o wythnos Dawnsathon y Mudiad sef ymgyrch godi arian i’r Cylchoedd Meithrin trwy gynnal gweithgareddau dawnsio, ac fe luniwyd rhestr o ganeuon yn arbennig i gynnal disgo inni gan BBC Radio Cymru.
Fe gymerodd dros 700 o blant ac oedolion ran yn y Dis-goch ac roedd Dewin – cymeriad hoffus y Mudiad – wedi ymuno yn y dathlu yn ogystal â staff cenedlaethol Mudiad.
Bydd Dewin yn dewis enillwyr sydd wedi anfon lluniau a’r niferoedd o bobl a gymerodd rhan yn y Dis-Goch i drefnu ymweliad arbennig â nhw fel rhan o’i Daith Nadolig gyntaf erioed (manylion i’w rhyddhau’n fuan ar ein platfformau digidol).
Felly Pob Lwc Cymru gan holl blant bach Mudiad Meithrin!