Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi fod ei gais ar gyfer cais grant Taith y Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus. Bwriedir i’r cynllun ‘Taith’ ymestyn ffiniau ei gwaith a darparu cyfleoedd dysgu i’r Mudiad a’i bartneriaid ym Mhatagonia. Bydd 3 o unigolion yn cynrychioli Mudiad Meithrin a’i sector ar daith gyfnewid i Batagonia, gan ymweld â’r Cylchoedd Meithrin, ysgolion a guarderías iaith Sbaeneg. Bydd cyfle cyfnewid hefyd i o leiaf ddau unigolyn deithio i Gymru i ymweld â Chylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd dydd Cymru ac ysgolion Cymru, gan gynnig rhaglen ddiddorol o gyfarfodydd ac ymweliadau.

Bu i Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin roi anerchiad byr yng Nghynhadledd Addysg Oedolion yng Nghymru ar y cynllun Taith, ddydd Mawrth 29, Tachwedd.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies:

 “Yr ydym yn awyddus i ddefnyddio cynllun ‘Taith’ fel cyfrwng i wthio ffiniau’n gorwelion ac i roi cyfleoedd ddysgu i ni’n hunain ac i bartneriaid ym Mhatagonia. Trwy daith gyfnewid byddwn yn cryfhau’r berthynas sydd eisoes yn bodoli rhwng Cymru a Phatagonia ac yn benodol, rhwng Mudiad Meithrin a’r cyrff sy’n darparu gofal ac addysg gynnar ym Mhatagonia.”

Mae dewis Patagonia yn ddewis naturiol i’r Mudiad o ystyried bod Cylchoedd Meithrin yno e.e. Ysgol Gymraeg y Gaiman a’r Ysgol Feithrin (sy’n aelodau o Mudiad Meithrin) a’u bod yn gweithredu hefyd mewn cyd-destun dwy ac amlieithog.

Meddai Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin:
“Mae gennym bartneriaid ym Mhatagonia yn barod – Cylchoedd Meithrin ac ysgolion Cymraeg sydd yn cyfranogi yng ngweithgareddau Mudiad Meithrin ac sy’n edrych atom am arweiniad ar nifer o bynciau amrywiol. Byddai dwysau a chyfoethogi’r berthynas hon o fudd i ni ac i’n partneriaid ym Mhatagonia er mwyn rhannu a dysgu oddi ar brofiadau gan hefyd greu posibiliadau o ran creu a rhannu adnoddau.

Ychwanegodd Gwenllian:
“Ein bwriad yw ffurfio partneriaeth gyda phartneriaid lleol ym Mhatagonia fel Menter Iaith Patagonia ac Ysgol Gymraeg y Gaiman a’r Ysgol Feithrin er mwyn adnabod unigolion addas fyddai’n elwa ar y profiad o daith ryngwladol. Bydd y cyfle i fynd ar y daith yn cael ei hysbysebu’n agored, tryloyw a democrataidd ond byddem yn ffafrio ceisiadau gan unigolion fyddai’n gweithio, wedi bod yn gweithio neu’n gwirfoddoli mewn lleoliad fel Cylch Meithrin neu ysgol Gymraeg.”

Bydd mwy o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais i fynd ar y cynllun Taith yn cael ei rannu yn fuan yn y flwyddyn newydd.