Lleoliad: Hen Ysgol Beuno Sant , Heol y Castell , Y Bala LL23 7UU
Rydym yn chwilio am Arweinydd Ystafell ymroddedig a phrofiadol i reoli ystafell blynyddoedd cynnar brysur. Byddwch yn arwain tîm bach, gan sicrhau safonau uchel o ofal, dysgu a datblygiad yn unol â’r Fframwaith Blynyddoedd Cynnar.
Prif gyfrifoldebau
- Arwain a chefnogi tîm o ymarferwyr
- Cynllunio a chyflwyno gweithgareddau addas i oedran
- Monitro cynnydd plant a chadw cofnodion
- Sicrhau bod diogelu, iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr
Gofynion
- Cymhwyster Lefel 3 (neu uwch) mewn Blynyddoedd Cynnar
- Profiad mewn lleoliad blynyddoedd cynnar
- Gwybodaeth dda o Cwricwlwn i Gymru
- Profiad arwain yn ddymunol
Mae’r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS estynedig a geirdaon boddhaol.
Opsiynau Cytundebau: Tymor-ysgol yn unig (38–39 wythnos) neu Blwyddyn Lawn (52 wythnos)
Gwnewch gais nawr i ymuno â thîm cefnogol gyda chyfleoedd datblygu a dilyniant gyrfa
Dyddiad cau: 8 Mai 2026 @ 9.00 y bore
Cyflog: Blwyddyn Lawn (52 wythnos): £25,012 y flwyddyn / Tymor-ysgol yn unig (38–39 wythnos): £18,278 – £18,759 y flwyddyn (fel arfer yn cael ei dalu’n fisol dros 12 mis)
Oriau: 37 awr yn bosib. Gwyliau: 25 diwrnod ynghyd â gwyliau banc (yn gymesur ar gyfer rolau tymor-ysgol)
Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch
Person cyswllt am rhagor o fanylion:
Am fanylion llawn cysylltwch â Lisa Jones rheolwr@canolfandeuluybala.onmicrosoft.com
neu ffoniwch 01678 528571
Dyddiad Cau: 08/05/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 7.30-18.00 | |
| Dydd Mawrth | 7.30-18.00 | |
| Dydd Mercher | 7.30-18.00 | |
| Dydd Iau | 7.30-18.00 | |
| Dydd Gwener | 7.30-18.00 |