Pennod 2 – Cyflwyniad i’r Llwybr Datblygu Lles gyda Charlotte Thrussle o Gylch Meithrin Bro Alun.

 

Dyma ail bennod ein cyfres podlediad ‘Camau Bach i’r Cwricwlwm’ gan Mudiad Meithrin. Cyfres o bodlediadau sy’n gyfle i ddysgu mwy am beth mae’r Cwricwlwm newydd yn ei olygu i blant, staff a theuluoedd y Mudiad Meithrin.

Yn y bennod hon bu’r gyflwynwraig Nia Parry yn sgwrsio gyda Charlotte Thrussle, Rheolwr Cylch Meithrin Bro Alun yn ardal Wrecsam, sydd wedi bod yn y swydd ers 4 mlynedd. Mae’n amlwg o’r sgwrs bod Cylch Meithrin Bro Alun yn lle byrlymus a hapus, ac un sydd wedi helpu nifer o staff a theuluoedd i siarad Cymraeg yn ardal Wrecsam, gyda help y plant eu hunain!

Mae Charlotte yn croesawu datblygiad y Cwricwlwm newydd ac wedi profi sut mae plant ei Chylch Meithrin hi eisoes yn elwa ohonno;

“Mae’n wych! Mae’r plant a’r staff wrth eu bodd gyda’r Cwricwlwm newydd. Mae’n atgoffa ni bod gan bob plentyn ei lais a’i anghenion ei hun, ac mae’r Cwricwlwm yma’n cefnogi hynny. Mae’n caniatau i’r plant fod yn nhw eu hunain, ac yn cynnig hyd yn oed mwy o brofiadau a chyfleoedd i bob plentyn i ddatblygu a magu hyder yn y Cylch.”

Yn ystod y bennod bu Charlotte yn canolbwyntio ar Lles, sy’n un o’r pump Llwybr Datblygu yn y Cwricwlwm newydd. Cawn glywed sut mae’r siwrne Lles yn dechrau cyn i’r plant ddechrau yn y Cylch;

“Mae’n dechrau yn y nosweithiau agored, ryden ni’n gwahodd y plant a’u teuluoedd i mewn i’r Cylch i sicrhau bod y plant yn dod i adnabod y staff; yn gweld ble byddan nhw ac yn teimlo’n gyfforddus yn y gofod. Ryden ni hefyd yn rhannu lluniau efo nhw o’r gofod a’r staff, felly pan mae nhw’n dechrau, mae nhw’n gartrefol a hapus. Mae gofalu am lles y plant a’r teulu yn bwysig inni.” 

Gwrando ar lais y plentyn yw un o’r datblygiadau yn y Cwricwlwm newydd, a bu Charlotte yn rhannu sut mae Cylch Meithrin Bro Alun wedi addasu’r amser ‘snac’ i ymateb i hyn;

“Ryden ni’n rhoi ein hunain yn sefyllfa’r plentyn. Mae pob plentyn, fel pob oedolyn, yn llwglyd ar adegau gwahanol, felly yn lle dweud bod rhaid cael ‘snac’ ar yr un pryd, mae’r plant rwan yn dod i gael ‘snac’ pan mae nhw’n barod.”

Mae Charlotte yn credu bod y Cwricwlwm yn caniatau mwy o ryddid i blant wneud dewisiadau a bod yn fwy annibynnol, a bod hynny’n sicr yn hybu lles y plentyn;

“Mae pethau bach fel agor y drws i ganiatau iddynt wneud y dewis rhwng chwarae tu mewn neu tu allan, yn gwneud gwahaniaeth. Dros amser mae nhw’n gweld pam a phryd mae nhw angen cot, mae nhw wedyn yn dod i nôl y got a’r esgidiau glaw yn annibynnol, mae’n magu hyder ac yn fwy pwerus na rhywun yn gwneud y penderfyniad drostyn’ nhw.”

Mae trafod teimladau yn elfen bwysig o’r Llwybr Datblygu Lles, a bu Charlotte yn trafod sut mae’r Cwricwlwm wedi eu hysbrydoli nhw i ddatblygu sefyllfaoedd gwahanol ble gall plant drafod eu teimladau yn gyfforddus.

“Mae Amser Cylch yn gyfle inni drafod y teimladau gwahanol, ond nid pob plentyn sydd eisiau rhannu sut mae nhw’n teimlo o flaen pawb. Mae ganddon ni bellach ardaloedd gwahanol, fel cornel clud gyda chlustogau a goleuadau bach, mae creu awyrgylch gwahanol a chyfforddus mewn rhannau gwahanol o’r Cylch yn golygu bod plant yn gallu dod o hyd i rhywle sy’n gyfforddus iddyn nhw. Os yden nhw eisiau rhannu rhywbeth neu drafod sut mae’n nhw’n teimlo, mae nhw’n fwy tebygol o wneud hynny mewn rhywle cyfforddus.”

Mae Charlotte yn dweud bod y plant yn ffynnu ac wedi setlo’n gynt o ganlyniad i’r Cwricwlwm newydd;

“Ers inni ddod ag elfennau’r Cwricwlwm newydd i mewn mae’r plant wedi setlo’n gynt na’r arfer. Mae’r rhieni’n dweud bod y plant yn llawn straeon am yr hyn mae nhw wedi’i wneud, mae hynny’n hybu lles y rhieni hefyd. Mae sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r Cylch yn hapus yn bwysig iawn inni.”

 

Mae Camau Bach i’r Cwricwlwm yn gynhyrchiad gan Bengo Media a Llais Cymru ar gyfer Mudiad Meithrin. I wrando ar y bennod hon a gweddill y gyfres, ewch i www.podfollow.com/babystepsintowelsh

Charlotte Thrussle