Cyfres newydd sbon o bodlediadau sy’n trafod y Cwricwlwm Newydd.
Vanessa Powell
Yn y bennod hon cawn glywed beth fydd effaith y Cwricwlwm i’n darpariaeth ni o fewn y Cylchoedd Meithrin, a sut mae Vanessa a staff y Mudiad wedi bod yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Cwricwlwm newydd.
Charlotte Thrussle
Yn y bennod hon cawn glywed mwy am y Llwybr Datblygu Lles, a sut mae lles plant yn rhan hollbwysig o’r Cwricwlwm newydd.
Kayleigh Bickford
Canu, Makaton, actio, Facetime – rhai o’r dulliau cyfathrebu mae Kayleigh Bickford o Gylch Meithrin Beddau yn trafod gyda Nia Parry ym mhennod ddiweddaraf ein podlediad.
Jaqueline
Yn y bennod hon o Camau Bach i’r Cwricwlwm mae Nia’n sgwrsio gyda Jacquelie Hooban, Arweinydd Cylch Llanbedr am y Llwybr Dysgu Archwilio, a sut mae’r Cylch yn annog y plant i archwilio byd natur a’r ardal leol.
Hannah
Gwrandewch ar sgwrs Nia Parry gyda Hannah Rowley, Dirprwy Arweinydd Cylch Meithrin Nant Dyrys, sy’n trafod y Llwybr Dysgu ‘Perthyn’ a pha mor bwysig mae’r ymdeimlad o berthyn i blant a theuluoedd y Cylch.
Wendy
Ym mhennod olaf ein podlediad Camau Bach i’r Cwricwlwm, cafodd Nia Parry sgwrs gyda Wendy Davies sydd wedi bod yn gweithio yn y Cylch Meithrin ers dros 20 mlynedd! Cawn glywed am bwysigrwydd y Llwybr Dysgu – Datblygiad Corfforol a sut mae’n fwy na dim ond ymarfer corff.