Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi adnodd newydd sydd yn rhoi arweiniad i leoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar ar ddathlu gwahanol grefyddau’r byd. Mae Dewch i Ddathlu! yn becyn newydd a gomisiynwyd gan Mudiad Meithrin ac a’i crëwyd gan Helen Roberts sydd yn arbenigo yn y maes ac yn enw cyfarwydd fel athrawes, darlithydd ac ymgynghorydd Addysg Grefyddol.

Meddai Helen Roberts:

“Mae hi wedi bod yn bleser cael cydweithio efo Mudiad Meithrin ar y cynllun hwn. Mae’r Mudiad wedi adnabod bwlch yn y ddarpariaeth, ac fy ngobaith yw y bydd yr adnodd hwn yn helpu lleoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ddathlu gwyliau crefyddol newydd yn hyderus yn ystod y flwyddyn.”

Ychwanegodd,

“Mae’r adnodd yn rhoi cefndir a  manylion chwech o brif grefyddau’r byd. Oddi mewn i’r adnodd ar bob crefydd mae gwybodaeth gefndirol, syniadau am storiau a chaneuon a gweithgareddau y gellir eu gwneud efo’r plant bach.”

Mae’r adnodd hwn yn elfen arall bwysig o waith y Mudiad wrth ddathlu amrywiaeth a chydraddoldeb, a pharhau â’r neges bwysig fod croeso i bawb yn y Cylch Meithrin a bod y Gymraeg yn berthnasol i bawb.

Y chwe crefydd fydd yn sylfaen i’r adnodd yw: Iddewiaeth, Cristnogaeth, Bwdhiaeth, Islam, Hindwaeth a Sikhaeth.

Meddai Vanessa Powell, Prif Swyddog Cyfnod Sylfaen Mudiad Meithrin,

“Rydyn ni’n hynod o falch o’r adnodd newydd, arloesol hwn. Mae Dewch i Ddathlu! yn becyn pwrpasol y gellir cyfeirio ato ar wahanol adegau o’r flwyddyn wrth gynllunio er mwyn dathlu gwahanol wyliau sydd yn bwysig i blant bach sydd yn mynychu ein Cylchoedd Meithrin mewn gwahanol rannau o Gymru.”

Dywedodd “Mae pwyslais yr adnodd ar fod yn garedig ac ar helpu ein gilydd a bydd llawer o hwyl i’w gael wrth ddysgu a dathlu profiadau newydd gwahanol wyliau.”

Bydd yr adnodd ar gael i aelodau Mudiad Meithrin, ymarferwyr ac ymgynghorwyr blynyddoedd cynnar drwy wneud cais i www.meithrin.cymru/dysguadatblygu 

Mae’r adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae hefyd wedi ei addasu ar gyfer dosbarthiadau meithrin yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Ariennir y cynllun drwy grant Rhwydwaith Arbenigol y Cyfnod Sylfaen Llywodraeth Cymru.