Rydym yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am nawdd a chynlluniau grant newydd yn y diweddariad wythnosol ac yn y newyddlen gyllid
Mae’r diweddariad wythnosol a’r newyddlen gyllid ar gael yma: Newyddion – Mudiad Meithrin. Bydd gwybodaeth am gyllidwyr penodol, i ba gronfeydd y gallwch ymgeisio, sut i wneud cais, a therfynau amser yn cael eu rhannu.
Mae modd gwneud ceisiadau am grantiau. Bydd eich Cydlynydd Cefnogi yn gallu cefnogi’r broses ymgeisio.
- Rhaid cofio bod y mwyafrif o’r grantiau ar gael ar gyfer adnoddau, offer neu brosiectau penodol ac nid ar gyfer talu cyflogau a rhent.
- Mae cynghorau tref a chymuned, a busnesau lleol hefyd yn darparu grantiau i elusennau lleol, neu yn gallu cefnogi Cylchoedd Meithrin drwy noddi eich digwyddiadau e.e. gwobr raffl.
- Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gweithredu ymhob sir ac maent yn gallu rhoi gwybodaeth am gynlluniau cyllido lleol, a chynghori ar sut i lunio ceisiadau. Am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt, cliciwch yma.
- ‘Mae’r fideo isod yn cynnig 5 ‘top tips’ wrth geisio am grant’.