Bydd y gyfres o bodlediadau ‘Baby steps into Welsh’ gan Mudiad Meithrin yn cael ei lansio ddydd Mercher 31st Mawrth pan fydd cyflwynydd Good Morning Britain Sean Fletcher a’i wraig Luned Tonderai yn trafod yn agored eu profiadau yn y bennod gyntaf.

Cyfres o bodlediadau newydd a chyffrous gan Mudiad Meithrin yw ‘Baby Steps Into Welsh’. Cyflwynydd y podlediad yw Nia Parry, y cyflwynydd teledu Cymraeg. Mae’r podlediad yn gyfle i rieni rannu eu profiadau go iawn ac unrhyw bryderon ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin,

“Ein prif nod fel Mudiad yw galluogi holl blant Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Mae gennym sawl dull o gyflawni’r nod hwn, ond dibynnwn ar rieni i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant, gan gychwyn gyda’r Cylch Meithrin.  Mae’r profiadau byw hyn yn ychwanegiad pwysig i’r drafodaeth ynghylch sut byddem yn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Ymhob un o’r pump penodau, mae Nia Parry yn cwrdd â rhieni sy’n rhannu ac yn trafod eu siwrneiau personol. Ym mhennod 1, a fydd yn cael ei rhyddhau ar 31ain o Fawrth, mae cyflwynydd Good Morning Britain, Sean Fletcher, a’i wraig Luned Tonderai, yn rhannu eu profiadau diddorol o addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain:

Sean Fletcher a Luned Tonderai
Sean Fletcher a Luned Tonderai

“Nid oeddwn i’n siarad Cymraeg ar y pryd, er bod Luned yn rhugl o’r crud. Fel person o hil gymysg, mi wn i pa mor bwysig yw hunaniaeth, a gan fod ein plant ni’n hanner Cymry, roedd rhoi’r Gymraeg yn rhodd iddyn nhw yn benderfyniad hawdd. Teimlais ei bod hi’n bwysig dysgu Cymraeg ochr yn ochr â nhw, fel y gallwn i helpu gyda gwaith ysgol, ac i sicrhau nad oeddwn yn cael fy ngadael allan o bethau! Roedd y Cylch Meithrin yn gam cyntaf allweddol, ac roedd yr ysgol Gymraeg yn Llundain yn anhygoel. Rydw i mor falch ac mor hapus ein bod wedi gwneud hyn i’n teulu.”  Sean Fletcher.

Magwyd y digrifwr Mike Bubbins a’i wraig Kelly, sy’n ddirprwy brifathrawes, yn ne Cymru. Maen nhw’n byw yng Nghaerdydd gyda’u ddau blentyn ifanc. Nid yw’r un o’r ddau yn siarad Cymraeg. Roedd Kelly yn angerddol am addysg Gymraeg:

“Tra’n astudio yng Ngholeg Safon Uwch, teimlais gymaint o genfigen at y myfyrwyr eraill oedd yn medru siarad Cymraeg. Penderfynais pe bawn i’n cael plant, y byddwn i eisiau iddyn nhw gael yr addysg Gymraeg na chefais i mohoni. Mae’n agor drysau i gymaint mwy o gyfleoedd amrywiol.” 

Fodd bynnag, nid oedd Mike yr un mor bendant:

“Gan ein bod yn aelwyd ddi-Gymraeg roeddwn i’n poeni’n fawr y byddai’r plant yn dioddef, oherwydd doedden ni ddim yn gallu eu helpu. Ond mae’r mab newydd ymddangos ar Mastermind Cymru i blant, sy’n profi na fu hyn yn rhwystr! Mae’n gas gen i gyfaddef bod Kelly’n iawn, ond eu hanfon i Gylch ac ysgol Gymraeg yw’r penderfyniad gorau rydyn ni erioed wedi’i wneud!”

Yn ogystal â chwrdd â rhieni sydd eisoes wedi gwneud y penderfyniad, mae ‘Baby Steps Into Welsh’ yn rhannu straeon rhieni sy’n gwneud y penderfyniad pwysig ar hyn o bryd. Daeth Bethan Sayed a Rahil Sayed yn rhieni am y tro cyntaf yn 2020. Mae Bethan yn Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ac yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hi’n angerddol am roi addysg Gymraeg i Idris. Mae ei gŵr, Rahil, a fagwyd ym Mumbai ac a gafodd addysg breifat  Saesneg, yn ansicr:

Bethan Sayed, ei gwr Rahil, a'u mab Idris
Bethan Sayed, ei gwr Rahil, a’u mab Idris

“Bydd Idris yn rhugl yn Gymraeg, Saesneg a Hindi, ond ein gwaith ni fel rhieni yw paratoi ein plant ar gyfer bywyd go iawn, nid gwarchod diwylliant. Mae’n drafodaeth gymhleth a pharhaus, ac yn benderfyniad mawr i ni ar hyn o bryd.”

Bydd Dr Siân Wyn Siencyn o Geredigion, arloeswr ym maes y blynyddoedd cynnar fel disgyblaeth academaidd, yn ymuno â Nia ar y podlediad i rannu ei harbenigedd a’i phrofiadau gyda rhieni sy’n wynebu’r penderfyniad mawr hwn:

“Dydw i ddim yma i ddweud bod ysgolion cyfrwng Cymraeg ac addysg Gymraeg yn well, ond rwy’n credu os nad ydyn ni’n rhoi cyfle i blant yng Nghymru ddysgu a siarad Cymraeg, rydyn ni’n gwneud cam â nhw. Dydw i erioed wedi cwrdd â neb sy’n difaru dysgu Cymraeg, ond dwi wedi cwrdd â digon sy’n difaru nad ydyn nhw. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghyfraniad i yn helpu i ateb pryderon y rhai sy’n wynebu’r penderfyniad hwn yn y dyfodol.”