A oes gwir angen i’n plant ‘ddal i fyny’?

‘Chydig cyn gwyliau’r Pasg, rhyddhaodd y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad terfynol cyn etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’r pwyllgor yn credu sydd angen ei wneud i liniaru effeithiau’r pandemig ar fywydau a phrofiadau ein plant.

Yn wahanol i nifer yr adroddiadau dwi di ddarllen yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf, mae’r pwyllgor yn nodi’r angen i symud oddi wrth ymadroddion negyddol am “ddysgu coll” a’r angen i “ddal i fyny”.  Ydy hyn yn golygu nad ydynt yn credu nad oes angen cefnogaeth ar ein plant wrth i ni gamau i ail flwyddyn y pandemig?  Nac ydy.  Heb os, mae angen cefnogaeth ar ein plant, ond o ba fath?

Mae fy merch 8 oed wedi cwblhau’r gwaith a osodwyd gan ei hathrawon yn ystod y cyfnodau clo. A llawer mwy yn ychwanegol – pethau na welir ar unrhyw gwricwlwm ysgol.  Mae’n gallu darllen, sgwennu a chyfri.  Mae’r National Geographic a llyfrau am y gofod a’r planedau i’w weld ar hyd a lled y tŷ.  Falle nad yw hi wedi llwyr ymddiddori ym mhob agwedd o’r gwaith ysgol, ond mae ganddi’r sgiliau i fedru eu cwblhau.  A dwi di ddysgu llwyth am Microsoft TEAMS wrth iddi hi ei ddefnyddio i gwblhau’r gwaith ysgol i gyd.

Er hynny, mae wedi colli allan ar ddatblygiad cymdeithasol. Clecian y maes chwarae, y cwympo allan a dod yn ffrindiau eto sy’ ddim yn bosib eu hail-greu adref gyda’u rhieni. Chwarae a thrafod gyda’i chyfoedion.  Sgiliau bywyd hanfodol y mae angen iddi hi, ac eraill, eu datblygu i ddatblygu’n oedolion gwydn.  Mae’r clybiau chwaraeon wedi mynd, ac er bod y plant sydd yn diddori mewn chwaraeon tu allan wedi gallu ymarfer … anodd iawn yw Karate, dros Zoom, yn y gegin!

Ganed fy merch 1 oed ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf. Nid yw hi erioed wedi mynychu grŵp babanod wyneb-yn-wyneb.  Byth wedi gorfod rhannu tegan. Mae hi’n gwybod llai o hwiangerddi na’i chwaer … ond mae ganddi wybodaeth helaeth o gerddoriaeth roc yr 80au! Mae hi wedi gwylio mwy o deledu na gafodd ei chwaer wylio, gan nad oedd unrhyw le arall i fynd i ddianc rhag y glaw dros glo’r gaeaf, ac roedd angen i ni lenwi’r diwrnod rywsut.

Mae blwyddyn o wylio’i chwaer fawr yn gwneud gwaith ysgol, a’u rhieni yn gweithio ar liniaduron o amgylch bwrdd y gegin yn golygu bod ganddi ddiddordeb mawr mewn gweithgareddau tebyg.  Mae’n dwli gwneud marciau.  Mae hi’n caru llyfrau a bydd yn eu gwthio o dan eich trwyn trwy’r dydd. Ond, pobl.  Dyna hanes arall. Maen nhw’n wych os ydyn nhw ar sgrin, ddim cystal pan maen nhw’n rhai go iawn …

Mae’r ddwy wedi dysgu llawer am DIY. Un o helpu. Y llall wrth wylio. Gall y ddwy ohonyn nhw iwsio morthwyl. Ac maent yn gwybod sut mae’r peiriant gwnïo yn gweithio, gyda’r gwersi cyntaf flwyddyn yn ôl ar wneud masgiau yn teimlo’n bell erbyn hyn.

Yr hyn y maent yn ysu amdani, dros flwyddyn ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf, yw cwmni. Y cwmni chwareus, rhydd, na all eich rhieni ei gynnig.  Y gallu i gymdeithasu a threulio amser gyda theulu pell.  Cwtsio’u rhieni-cu am y tro cyntaf mewn misoedd oherwydd y cyfyngiadau teithio. Cwrdd â ffrindiau a mynd am ginio.

Ydy, mae datblygiad ein plant yn bwysig. Gallai neb gwadu bod rhaid i amddiffyn ein plant rhag unrhyw sgil-effeithiau tymor hir y pandemig, gan gynnwys tarfu dro ar ôl tro ar wasanaethau addysg a blynyddoedd cynnar, fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru. Ond mae angen i’r amddiffyniad hwnnw gydnabod nad yw lles emosiynol ein plant ynghlwm ag oriau ychwanegol mewn grwpiau babanod, gofal plant neu ystafelloedd dosbarth. Mae angen amser ar ein plant i fod yn rhydd. Rhydd i ddal fyny gyda theulu a ffrindiau.

Beth os, yn lle edrych am y sgiliau nad yw ein plant wedi’u datblygu, da ni’n edrych am y rhai sydd ganddynt? Eu cefnogi nhw, a’u teuluoedd, i lenwi’r bylchau dros y tymor hir, heb chwilio am atebion tymor byr? Yr hyn sydd ei angen arnynt, ganom ni, eu rhieni, a’r lleoliadau blynyddoedd cynnar ac addysg maent yn eu mynychu, yw cariad, gofal a diogelwch.  Gyda hyn yn ei le, fe fyddant yn datblygu’r sgiliau rydym ni’n disgwyl iddynt eu ddysgu.

Mae angen sicrhau bod  cefnogi ein plant ieuengaf, ein babis, a’u rhieni a gofalwyr, yn cael eu blaenoriaethu.  Gydag ail-agor y cylchoedd Ti a Fi wyneb-yn-wyneb ar y gorwel, mae’n amser i ni gwrdd a rhoi cyfle i’n plant lleiaf i wneud ffrindiau, ac ni’r rhieni cael clonc dros baned neu ddau.