Fel rhan o’n cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae’r gyflwynwraig Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: www.podfollow.com/babysteps.
Ym mhennod 4, cawsom glywed stori Aran Jones a Catrin Lliar o ardal Pwllheli.
“Magu fy mhlant yn ddwyieithog ydy’r peth mwyaf rydw i wedi’i gyflawni yn fy mywyd” Aran Jones.
Cafodd Aran ei eni yn Epsom yn Lloegr, ond bu’n byw yng Nghwm Cynllwyd gyda’i Nain a’i Daid ac yna yn y Felinheli, cyn symud i Guilford ac ymlaen i Dusseldorf, yr Algarve, Sri Lanka a Kuala Lumpur. Mae’n credu bod dysgu’r iaith leol yn bwysig ac yn gyfle i fod yn rhan o’r diwylliant lleol, ond soniodd mai methiant fu ei ymgais i ddysgu sawl iaith ar hyd y blynyddoedd.
Mae’n rhyfeddol felly bod Aran a’i wraig Catrin wedi helpu dros 60,000 o bobl yn fyd eang i ddysgu Cymraeg trwy ei rhaglen dysgu Say Something in Welsh! Bu’r ddau yn trafod sut cafodd y gwersi cyntaf eu cyhoeddi ar-lein fel roedd Catrin yn paratoi i roi genedigaeth i’w plentyn cyntaf!
“Mae Addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg yn agor y drws i fyd newydd rhyfeddol. Mae fel darganfod Narnia”. Aran Jones.
Yn ystod y sgwrs gyda Nia, bu Aran yn trafod sut mae dysgu iaith yn llawer mwy na dim ond geiriau. Mae siarad Cymraeg yn agor drysau i ddiwylliant hollol newydd, nid yn unig i’r plant ond i’r rheini. Soniodd fel roedd yr Aran di-Gymraeg yn gwybod dim am y ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn y gorffennol, er ei fod yn byw yno ar y pryd! Fel siaradwr Cymraeg, mae’n uchafbwynt meddai ac yn cynnig cyfleoedd gwych i bob oedran.
“Yma yng Ngwynedd mae’n ddewis rhwng mynd i ysgol Gymraeg neu beidio mynd i’r ysgol o gwbl!” Catrin Lliar
Soniodd Catrin sut mae addysg Gymraeg yn hollol normal yng ngogledd Cymru, ble maen nhw’n magu’r plant. Does dim opsiwn i beidio mynd i ysgol Gymraeg, ac roedd y ddau yn gytûn bod hyn yn batrwm da ar gyfer gweddill Cymru, er mwyn normaleiddio’r iaith a sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle.
Bu Catrin hefyd yn esbonio sut mai dysgu’r iaith yn beth hollol naturiol i blant, a bod y Cylch Meithrin yn chwarae rôl bwysig yn hyn o beth. Nid dim ond o safbwynt yr iaith, ond hefyd er mwyn dod i adnabod teuluoedd a rhwydwaith newydd o ffrindiau teuluol i’ch cefnogi yn ystod addysg y plant.
“Roedd y Cylch Meithrin fel estyniad o’r teulu i fi. Mae’n le gwych i bobl leol a phobl sydd wedi symud i’r ardal i wneud ffrindiau a dod yn rhan o’r gymuned. Bydd yn gwneud bywyd yn llawer haws wrth i’r plant fynd efo’i gilydd i’r ysgol”. Catrin Lliar.
Gwrandewch ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: www.podfollow.com/babysteps.