Mae Mudiad Meithrin – yr arbenigwr blynyddoedd cynnar Cymraeg blaenllaw yng Nghymru – yn falch o gyhoeddi ap newydd sy’n cynnwys 3 e-lyfr Cymraeg, gydag un o’r llyfrau hyn wedi’i gyfieithu i’r Wyddeleg fel y gall Gaeloideachas ei ddefnyddio i hyrwyddo addysg cyfrwng Gwyddelig yn Iwerddon.

Mae Mudiad Meithrin yn sefydliad sy’n angerddol am roi cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a thyfu yn Gymraeg. Mae nifer o rieni di-Gymraeg wedi nodi eu bod yn teimlo eu bod wedi colli allan ar y cyfleoedd i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus dros y blynyddoedd ac maent yn awyddus bod eu plant yn cael cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg. Dewin a Doti 2 yw ail ap Mudiad Meithrin, ond yr adnodd cyntaf i gynnwys stori yn y Wyddeleg yn ogystal â fersiynau Makaton, a bydd yr ap yma’n gymorth i rieni i glywed a defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant yn y cartref.

Mae’r ap Dewin a Doti 2 yn cynnwys 3 stori am gymeriadau hoffus Mudiad Meithrin, Dewin a Doti. Mae Dewin a’i ffrind ffyddlon Doti y ci yn bresennol yn ein holl Gylchoedd Meithrin i helpu plant i siarad Cymraeg, gan mai Cymraeg yw’r unig iaith mae Dewin a Doti yn ei siarad a’i deall. Thema’r tri llyfr yw Dewin a Doti yn dathlu’r Flwyddyn Newydd ledled y byd, Dewin a Doti yn helpu eu ffrind i ailgylchu, a’r trydydd e-lyfr sydd wedi’i gyfieithu i’r Wyddeleg yw Dewin a Doti yn teithio ledled Cymru.

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

Fel mudiad sydd yn angerddol am roi cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a datblygu drwy’r Gymraeg, rydym wrth ein boddau yn cydweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo caffael iaith a’r manteision o fod yn amlieithog. Gan fod 80% o boblogaeth y byd yn ddwyieithog, credwn fod dwyieithrwydd yn fuddiol i bob plentyn yng Nghymru ac yn cynnig mwy o gyfleoedd iddynt mewn bywyd. Gobeithiwn y bydd rhieni yn mwynhau defnyddio’r ap hwn gyda’u plant.”

Bydd yr holl e-lyfrau hyn i’w gweld ar yr ap yn ogystal â thaflenni gweithgaredd a gêm lotto.  Maent ar gael i’w lawrlwytho trwy’r siop apiau ar bob platfform. Mae fersiwn Signalong ar gael gyda’r holl straeon Cymraeg hefyd.

Mae Mudiad Meithrin wedi cynhyrchu’r fersiwn Wyddeleg fel rhodd i Gaeloideachas sef y prif sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi datblygiad ysgolion cyfrwng Gwyddelig a Gaeltacht ar lefel gynradd ac ôl-gynradd. Mae Gaeloideachas yn darparu cyngor, cymorth a chefnogaeth i bobl sy’n dymuno cael addysg i’w plant trwy gyfrwng y Wyddeleg, o’r ysgol gynradd (naíonraí) i ysgolion cynradd ac ôl-gynradd cyfrwng Gwyddelig yn Gaeltacht ac ardaloedd sydd ddim yn cael eu hystyried fel ardal Gaeltacht. Mae Gaeloideachas yn gweithio i eirioli ar ran naíonraí ac ysgolion i hwyluso safon addysg drochi ledled y wlad yn ogystal â datblygu a chryfhau’r gymuned a’r diwylliant sy’n siarad Gwyddeleg. Gweledigaeth Gaeloideachas yw y dylai addysg drochi trwy gyfrwng y Wyddeleg o ansawdd uchel fod ar gael i bob rhiant a gwarcheidwad a fyddai’n ei ddewis ar gyfer eu plentyn, a gweledigaeth Mudiad Meithrin yw y dylai addysg Gymraeg fod ar gael i bob plentyn yng Nghymru.

Mae Prif Swyddog Gweithredol Gaeloideachas, Bláthnaid ní Ghréacháin, yn canmol y gwaith:

“Hoffwn ddiolch i Mudiad Meithrin am ein gwahodd i fod yn rhan o’r fenter arbennig hon ac am ganiatáu i siaradwyr ifanc a dysgwyr fwynhau’r Wyddeleg drwy’r e-lyfr newydd hwn. Mae sicrhau bod y llyfr hwn ar gael yn electroneg yn ehangu’r cyfleoedd i lawer o deuluoedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar gael mynediad at yr iaith yn hawdd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Mudiad Meithrin yn y dyfodol i ddatblygu mwy o adnoddau i helpu i annog defnydd a dysgu pellach o’r Gymraeg a’r Wyddeleg.”

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho wrth ddilyn unrhyw un o’r dolenni canlynol:

Dewin a Doti 2 – Apps on Google Play

Dewin a Doti 2: Amazon.co.uk: Appstore for Android

App Store – Apple (UK)