Mae Mudiad Meithrin – yr arbenigwr blynyddoedd cynnar Cymraeg blaenllaw yng Nghymru – wedi cyhoeddi rhestrau’r tri uchaf ar gyfer ei Seremoni Gwobrau flynyddol sy’n cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y cylchoedd a’r meithrinfeydd dydd.
Bwriedir cynnal y Seremoni Gwobrau yn Theatr y Werin, Aberystwyth ar yr 2il o Hydref eleni, yn ddibynnol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal digwyddiadau yn sgil Covid-19. Mi fydd y gyflwynwraig deledu boblogaidd Mari Lovgreen yn ôl i gyflwyno’r seremoni unwaith eto eleni.
Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Ein gweledigaeth yw rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddysgu, tyfu a chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r Seremoni Gwobrau’n gyfle euraidd i ni gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad, sydd yn rhan allweddol i wireddu hyn. Cafodd bawb gyfle i enwebu unigolion o Gylch Meithrin neu feithrinfa ddydd am wobr mewn naw gwahanol gategori.”
Mae 9 categori i gyd: Arweinydd, Cynorthwyydd, Gwirfoddolwr, Cylch Meithrin, Meithrinfa Ddydd, Cynhwysiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Ardal Chwarae a Dysgu Tu Allan, Dewin a Doti, a Phwyllgor Cylch.
Cyfarfu’r panel gwobrwyo yn rhithiol ar ddiwedd mis Mai a dewiswyd y tri uchaf ym mhob categori.
Meddai Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Roedden ni’n gobeithio y byddai pobl yn manteisio ar y cyfle i enwebu cylch lleol neu feithrinfa sy’n haeddu cydnabyddiaeth ac rydym wedi gwirioni ein bod wedi derbyn cannoedd o enwebiadau! Mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”
Gwobrau 2021 Mudiad Meithrin – y 3 uchaf yn nhrefn yr wyddor:
Chwarae a Dysgu Tu Allan
Cylch Meithrin Eco Tywi, Sir Gaerfyrddin
Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd
Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin
Arweinydd
Hannah Lines-Zechmann (Cylch Meithrin Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin)
Kate Jenkins (Cylch Meithrin Tedi Twt, Caerffili)
Sioned Wyn Jones Roberts (Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys)
Cynorthwy-ydd
Carys Price (Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys)
Karlie Jo Davies (Cylch Meithrin Penderyn, Rhondda Cynon Taf)
Lindsay Turner (Cylch Meithrin Pontarddulais, Abertawe)
Cylch Meithrin De-ddwyrain
Cylch Meithrin Camau Cyntaf Llanhari – Rhondda Cynon Taf
Cylch Meithrin Evan James – Rhondda Cynon Taf
Cylch Meithrin Nant Dyrys – Rhondda Cynon Taf
Cylch Meithrin De-orllewin
Cylch Meithrin Crymych, Sir Benfro
Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys
Cylch Meithrin Tal-y-Bont, Ceredigion
Cylch Meithrin Gogledd-orllewin
Cylch Meithrin Dolgellau, Gwynedd
Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd
Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd
Cylch Meithrin Gogledd-ddwyrain
Cylch Meithrin Drenewydd, Powys
Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys
Cylch Meithrin Pontrobert, Powys
Cynhwysiant, Cydraddoldeb, ac Amrywiaeth
Cylch Meithrin Myrddin, Sir Gaerfyrddin
Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion
Cylch Meithrin Y Bedol, Sir Gaerfyddin
Dewin a Doti
Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gaerfyrddin
Cylch Meithrin Mornant, Sir y Fflint
Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion
Gwirfoddolwr
Eifiona Wood (Cylch Meithrin Abersoch, Gwynedd)
Michelle Killey (Cylch Meithrin Tonyfelin, Caerffili)
Siôn Hughes, (Cylch Meithrin Bwcle, Sir y Fflint)
Meithrinfa Ddydd
Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin
Meithrinfa Seren Fach, Gwynedd
Meithrinfa Y Cam Cynta, Sir Gaerfyrddin
Pwyllgor
Cylch Meithrin Beddau, Rhondda Cynon Taf
Cylch Meithrin Dyffryn Banw, Powys
Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys