Comisiynwyd cwmni IAITH: y ganolfan cynllunio iaith gan Mudiad Meithrin i gynnal adolygiad o waith Cynllun Sefydlu a Symud (SAS) yn ystod y cyfnod o Ebrill 2018 i Fawrth 2021, yn benodol er mwyn dylanwadu ar siâp y rhaglen sefydlu Cylchoedd Meithrin newydd yn ystod tymor nesaf y Senedd (o 2021 i 2026). Credwn ei bod yn bwysig i asesu beth mae’r cynllun wedi ei gyflawni ers ei sefydlu yn Ebrill 2018, pa heriau sydd wedi codi a pha wersi sydd yn gallu cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
Mae cynllun Sefydlu a Symud (SAS) yn brosiect penodol a reolir gan Mudiad Meithrin mewn ymateb i raglen waith #Cymraeg 2050 – miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef Strategaeth Iaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2017. Nod y prosiect a ddechreuodd fis Ebrill 2018 yw sefydlu 40 o Gylchoedd Meithrin newydd (gyda Chylch Ti a Fi ynghlwm) erbyn diwedd 2021. Er gwaethaf effeithiau Covid-19 ar y cynllun bydd 43 Cylch Meithrin newydd wedi agor eu drysau ar draws Cymru erbyn tymor yr Hydref 2021. Mae cynlluniau i agor 12 Cylch Meithrin ym 4ydd flwyddyn o’r cynllun eisoes ar waith fel ymateb i Raglen Waith ‘Cymraeg 2050’ a gyhoeddwyd ar Orffennaf 14.
Rydym yn croesawu canfyddiadau’r adolygiad bod “cefnogaeth eang a chadarn i Gynllun SAS ac i’r gwaith sydd wedi ei gyflawni ers ei sefydlu. Mynegwyd gwerthfawrogiad cyffredinol o ansawdd, cyflawniadau ac ymroddiad aelodau staff SAS ar hyd y daith”.
Mae’r adolygiad yn adeiladol ond mae hefyd wedi adnabod bod nifer o heriau yn wynebu Cylchoedd Meithrin newydd e.e. denu niferoedd o blant sydd eu hangen i fod yn gynaliadwy, recriwtio staff cymwys gyda sgiliau iaith Gymraeg hanfodol a’r gwaith a chyfrifoldeb sydd gan y pwyllgorau rheoli. Mae’n bwysig pwysleisio bod yr heriau yma yn wynebu pob Cylch Meithrin yng Nghymru, ac mai cefnogi Cylchoedd i oresgyn yr heriau yma er mwyn gallu cynnig gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel ydi gwaith craidd y Mudiad.
Rydym yn derbyn pob un o argymhellion yr adolygiad, ac mi fyddwn yn rhoi newidiadau ar waith ar gyfer Blwyddyn 4 o’r cynllun (2021/22). Byddwn hefyd yn trafod yr argymhellion gyda Llywodraeth Cymru a gyda’n partneriaid eraill er mwyn sicrhau llwyddiant cynllun SAS yn y dyfodol.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Dwi’n falch iawn o holl waith caled staff y Mudiad sydd wedi mynd i mewn i weithredu cynllun Sefydlu a Symud yn llwyddiannus ers Ebrill 2018. Fydden ni ddim wedi gallu llwyddo i gyrraedd a phasio ein nod o agor 40 Cylch Meithrin newydd heb gefnogaeth ein partneriaid, cymunedau lleol ac yn bennaf y gwirfoddolwyr sydd wedi ffurfio pwyllgorau rheoli ar gyfer y Cylchoedd Meithrin newydd. Diolch o galon i chi i gyd, ac edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu’r cynllun dros y 5 mlynedd nesaf.”