Gwobrwyo Dysgwyr Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam 2023
Fel mudiad sy’n arbenigwyr ar gynnal amrywiol gyrsiau ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg, ry’n ni’n falch o gyhoeddi y bydd seremoni wobrwyo arbennig yn cael ei chynnal Ngerddi Botaneg, Sir Gâr, ddydd Gwener 7 Gorffennaf.
Cynhelir Seremoni Wobrwyo Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam i gyflwyno tystysgrifau am gymwysterau ym maes y blynyddoedd cynnar i 50 o ddisgyblion ysgol uwchradd sydd wedi ennill gymwysterau cydnabyddedig fel rhan o’r cynllun.
Disgwylir y bydd tua 100 o ffrindiau a theuluoedd y disgyblion llwyddiannus o bob rhan o Gymru yn bresennol yn yr achlysur arbennig hwn. Ers dechrau cynnig y gwasanaeth arbenigol yma i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2006, mae dros 1,500 o ddisgyblion wedi cymhwyso.
Eleni mae 11 ysgol wedi bod yn rhan o gynllun Cam wrth Gam, sy’n cynnig cyrsiau i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd fel rhan o gwricwlwm yr ysgol. Yn rhan o’r seremoni fe fydd gwobrau yn cael eu dosbarthu i 3 dysgwr sy’n ennill disgybl y flwyddyn.
Ymysg y siaradwyr gwadd bydd Amy Thomas, Swyddog Pwnc Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant – CBAC, a Rebecca Thomas, cyn-ddisgybl o’r Cynllun Ysgolion sydd bellach yn asesydd gyda Cam wrth Gam.
Dywedodd Eunice Jones, Rheolwr Cam wrth Gam:
“Mae Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn cydweithio’n agos gyda phenaethiaid ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn cynnig rhaglenni hyfforddi sy’n diwallu anghenion ysgolion a’r gymuned yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. Mae Tiwtoriaid, Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol sy’n meddu ar brofiad a chymwysterau priodol, yn darparu amrywiaeth o ddulliau hyfforddi sydd wedi’u teilwra i anghenion unigol y dysgwr”.
Mae 11 ysgol wedi bod yn rhan o’r cynllun eleni ac fe fydd dwy ysgol arall, sef Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Dyffryn Aman yn ymuno ym mis Medi.