Ein gweledigaeth fel Mudiad yw y dylai bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i chwarae, dysgu a thyfu trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly ble bynnag mae ’na blant bach yng Nghymru yna dylai Mudiad Meithrin – ac felly’r Gymraeg hefyd, fod yn bresennol.  

Yn 2019 cyhoeddodd Mudiad Meithrin Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth am y tro cyntaf yn ei hanes. Am 3.30 bnawn dydd Iau, 10 Awst bydd Gwerthusiad o’r Strategaeth hon yn cael ei gyhoeddi a’i lansio ar stondin Mudiad Meithrin ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

 

Mae Mudiad Meithrin yn croesawu ymateb i’r gwerthusiad a syniadau ynghylch y ffordd ymlaen er mwyn cryfhau’r gwaith o sicrhau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws eu gwasanaethau.

Nod y Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yw:

  • sicrhau y caiff pawb sy’n rhan o gymuned y Mudiad eu trin mewn modd teg a chyfartal ar sail nodweddion gwarchodedig Deddf Cydraddoldeb 2010
  • mynd i’r afael â chamwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, drwy herio rhagfarn o bob math yn ogystal â meithrin diwylliant o herio rhagfarn
  • gwreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth fel egwyddorion creiddiol i bob agwedd o waith y Mudiad

Meddai Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Nod y ddogfen hon yw i daro golwg beirniadol dros gyflawniad y Mudiad ers 2019 yng nghyswllt gwaith cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth. Edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen at ein strategaeth nesaf felly, dyna’n amcan. Mae hyn o bwys oherwydd nad allwn honni fod ein pennaf nod – rhoi gofal plant ac addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru – yn ddilys os nad ydym yn llwyddo i wneud yn union hynny.”

 

Mae Rocío Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru yn croesawu’r gwerthusiad o’r strategaeth hon. Meddai Rocío :

“Rwy’n croesawu cyhoeddi gwerthusiad Mudiad Meithrin o’u Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019-2022. Mae’r gwerthusiad yn amlinellu mewn ffordd glir a thryloyw yr hyn sydd wedi ei gyflawni dros y cyfnod a beth sydd angen gwaith pellach. Dengys ymrwymiad clir Mudiad Meithrin a’u cyfraniad i gyflawni Cymru mwy cydradd a gwrth-hiliol, sy’n hollbwysig os rydym am wireddu hawliau pob plentyn yng Nghymru.”

 

Bydd y digwyddiad yn gyfle hefyd i ddysgu mwy am rai o’r prosiectau a’r datblygiadau sydd wedi deillio yn sgil cyhoeddi’r strategaeth e.e. penodi Prif Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant; ymrwymo i ymgyrch dim goddefgarwch tuag at hiliaeth; creu adnoddau sy’n adlewyrchu amrywiaeth hil, diwylliant, crefydd a gwahaniaethau corfforol.

Un o’r prosiectau a gyflawnwyd yn ddiweddar yw creu adnodd Cymru Ni. Mae Cymru Ni yn becyn o adnoddau sy’n dathlu hanes pobl Ddu Cymru ac wedi eu teilwra yn arbennig ar gyfer plant ifanc. Mae’r gyfres yn cynnwys hanesion unigolion fel Colin Jackson a Betty Campbell ac yn ystod y lansiad byddwn yn dathlu 2 stori newydd – un o’r presennol ac un o’r gorffennol – sef hanes Maggie Ogunbanwo,  cogydd a dynes fusnes o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle, a stori’r ffigwr hanesyddol John Ystumllyn o Gricieth.

Bydd Natalie Jones – awdur y stori John Ystumllyn yn bresennol yn y lansiad. Roedd Natalie hefyd yn un o’r ymgeiswyr llwyddiannus fu ar ein cynllun AwDUra – sef cynllun i annog lleisiau Cymraeg ymhlith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i sgwennu straeon i blant bach yng Nghymru.

 

Meddai Natalie Jones:

“Mae wedi bod yn fraint i ysgrifennu’r stori yma i Mudiad Meithrin. Mae’n bwysig bod plant yn gwybod straeon am ein hanes yng Nghymru. Mae angen iddynt weld eu hunain a dysgu’n gywir beth sydd wedi llunio ein cymdeithas. Weithiau, mae hanes yn boenus ac yn anodd ei glywed ac felly, mae angen inni gydbwyso gwirioneddau llym â straeon sy’n grymuso pob un o’n plant yng Nghymru. Mae’n bwysig i mi ysgrifennu cynnwys sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu ymdeimlad cadarnhaol o hunaniaeth.”

 

Meddai Menna Machreth, Prif Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Mudiad Meithrin:“Da yw gallu dathlu gymaint a gyflawnwyd, gan gydnabod ar yr un pryd bod rhaid i’r gwaith barhau, a datblygu ymhellach. O ganlyniad i’r mentrau, prosiectau, polisïau a gweithdrefnau a roddwyd mewn lle, mae’r gwaith pwysig hwn wedi bwrw gwreiddiau, ac mae’r gwreiddiau hynny’n ymledu ar draws Mudiad Meithrin, i leoliadau meithrin ac i’n partneriaid amrywiol.”