Fel sefydliad sy’n angerddol am roi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu yn y Gymraeg, mae Mudiad Meithrin yn falch o allu cyflwyno llyfrau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i wardiau plant mewn dwy ysbyty ar y gororau yn Sir Amwythig.
Cynhaliwyd y cyflwyniad yn yr ystafell addysg yn Ysbyty Princess Royal, Telford ddydd Mawrth 19 Medi 2023.
Dywedodd Tracey Caldicott, Cydlynydd Addysg Ysbyty Princess Royal yn Telford:
“Mae’r ffaith ein bod yn derbyn cleifion o Bowys yn rheolaidd yn golygu fod rhai o’r plant a ddaw yma’n siarad Cymraeg ac yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, felly mae’r pecyn hwn o lyfrau ar gyfer plant blynyddoedd cynnar yn yr iaith Gymraeg i’w groesawu’n fawr.”
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae plant yng Nghymru – fel fy mab 7 oed a dreuliodd bron i fis yn yr ysbyty yn Telford yn ddiweddar – yn cael mynediad rheolaidd i wasanaethau ysbyty yn Lloegr. Mae’n hanfodol bod Mudiad Meithrin yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel y GIG ar draws meysydd polisi amrywiol. Rydym felly yn falch iawn o ddarparu adnoddau cyfrwng Cymraeg i’r ward gan wybod y bydd plant a theuluoedd yn cael cysur o’r llyfrau hyn.”
Cyflwynodd Mudiad Meithrin becyn o lyfrau i Ward Alice yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt (RJAH) yn Gobowen hefyd. Roedd Helen Portman, Cydlynydd Addysg yr Ysbyty ar Alice Ward yn bresennol i dderbyn y pecyn o adnoddau.