11
Hyd

Cyflwyniad i Gynllunio Ymatebol (2)

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Cyflwyniad i Gynllunio Ymatebol

Gyda Vanessa Powell a Kayleigh Bickford, Adran Dysgu Sylfaen Mudiad Meithrin

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd

Cyflwyniad i gynllunio ymatebol sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas-gynhelir a ariennir. Bydd y sesiynau hyn yn cyflwyno’r egwyddor o ddilyn diddordebau plant a sut i gynllunio yn effeithiol ac yn hyderus.

Yn ystod y sesiynau wnei di ddysgu sut i:

  • Ddechrau cynllunio’n effeithiol
  • Ddefnyddio’r ddogfen cwricwlwm yn ei chyfanrwydd i gefnogi cynllunio.
  • Ddefnyddio’r cylch cynllunio’n effeithiol.

Erbyn diwedd y sesiynau wnei di ddeall sut i:

  • Gynllunio yn unol ag anghenion pob plentyn unigol.
  • Ddatblygu hyder yn y broses cynllunio.
  • Gynllunio yn ôl y 3 elfen sy’n galluogi dysgu mewn ffordd ymatebol.

*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru fod ar gael i fynychu’r ddau sesiwn ar y dyddiau canlynol:

11 Hydref a 15 Tachwedd   6.30-8pm

Cyfrwng iaith y sesiynau: Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd

*SESIYNAU BELLACH YN LLAWN*

Os hoffech i ni ychwanegu eich enw i’n rhestr aros, cliciwch yma.


Cyflwyniad i Gynllunio Ymatebol (2)

  • Dyddiad Cau: 2023-10-11
  • Amser: 18:30 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein