Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol

Mae Meithrinfa Garth Olwg wedi ei lleoli ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd yn chwilio am staff egniol a brwdfrydig i ymuno a'r tîm. Mae'r feithrinfa Gymraeg hon yn cynnig gofal o safon i blant bach yr ardal.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.

Cyfeiriad; Meithrinfa Garth Olwg, Pentre'r Eglwys, Pontypridd

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Delyth Evans, Rheolwr Meithreinfeydd

Rhif Ffôn01970639639

E-bost:delyth.evans@meithrin.cymru

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma: adnoddaudynol@meithrin.cymru

 

Manylion y Swydd

Cyflog: £12.71 yr awr

Oriau: Oriau hyblyg pan fo angen.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 27/05/2026