Un peth oedd yn sefyll allan i mi wrth ymweld â’r ysgolion ym Mhatagonia oedd pa mor weithgar oedd y staff. Doedd ganddyn nhw ddim mynediad at lawer o’r adnoddau rydyn ni’n ddigon ffodus i’w cael yng Nghymru ond roedd y staff yn greadigol i sicrhau bod plant yn cael cymryd rhan a phrofi gwahanol weithgareddau. Un enghraifft o greadigrwydd y staff yw’r llun yma o’r athrawes dosbarth yn darllen stori’r lindysyn llwglyd iawn. Roedd yr athrawes wedi creu’r lindys a’r glöyn byw a dod â bwydydd go iawn i mewn i ddangos i’r plant. Roedd y staff yn cymryd llawer o amser yn cynllunio a pharatoi adnoddau.
Ar ein hymweliad roeddem yn ddigon ffodus i gael ein gwahodd i ymweld ag ysgol gyhoeddus gan yr athro Cymraeg er mwyn i ni weld y gwahaniaeth rhwng yr ysgolion preifat Cymraeg ar ysgolion cyhoeddus. Mae’r ysgolion cyhoeddus yn gwneud 40 munud yr wythnos o wersi Gymraeg i’r dysgwyr. Roedd yn anhygoel gweld y gwahaniaeth a wnaeth yr amser bach yma ar sgiliau iaith Gymraeg y plant. Trwy gydol y dydd gwelsom blant yn cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg, canu, dawnsio gwerin ac adrodd. Roedd y plant yn wrth ei bodd yn perfformio a gofyn cwestiynau i ni am Gymru! Roedd hin braf weld yr ymdrech roedd y staff yn wneud i hybu’r iaith.
Un o fy hoff bethau i wylio yn yr ysgolion oedd seremoni’r codi baner. Byddai’r plant a’r staff yn canu wrth iddyn nhw godi baner yr Ariannin a Chymru bob bore. Gwnaeth yr ysgolion hyn i ddangos parch a rhoi ymdeimlad o falchder ac anrhydedd iddynt i’w gwlad a’u hanes.


