Roedd yr athrawes yma o Ysgol y Gaiman yn arbennig!! Roedd hi’n cynnal gwersi garddio a gwaith pren gyda grwpiau gwahanol trwy’r dydd, bob dydd. Yma, mae hi’n sgwrsio gyda’r plant am y creaduriaid bach sy’n byw yn y compost. Roedd hi a’r plant wedi creu cist compostio allan o bren ac yn ychwanegu pilion llysiau a ffrwythau o gegin yr ysgol yn ddyddiol. Roedd y plant yn helpu hi i droi’r cymysgedd gyda theclyn yn debyg i auger ac yna agor gwaelod y gist i dynnu’r compost aeddfed allan. Yna, roeddent yn hidlo’r compost trwy sawl rhidyll gwahanol tan eu bod nhw’n llwyddo i greu’r compost perffaith i ddefnyddio ar gyfer plannu hadau! Roedd hi mor ymarferol a diddorol a’r plant wrth eu boddau yn dysgu gyda hi.
Dyma athrawes arbennig arall yn Ysgol y Cwm, Trevelin. Yma, roedd hi’n arwain gwers cerddoriaeth gyda’r plant blwyddyn derbyn ac yn cyflwyno nhw i ddarn o gerddoriaeth gan gyfansoddwr Johannes Brahms ac yn dangos llun ohono i’r plant hefyd. Wrth wrando ar y gerddoriaeth roeddent wedi chwarae offerynnau amrywiol ac yn llwyddo i gael pawb i gadw at y rhythm yn arbennig o effeithiol trwy gyfeirio at y nodau mawr ar ddarnau o bapur ar y llawr yng nghanol y cylch. Wedyn, roedd pob un o’r plant yn dawnsio i’r gerddoriaeth ac yn defnyddio sgiliau gwrando gwych wrth symud i’r gerddoriaeth; yn amrywio wrth symud yn gyflym neu yn araf, ar flaenau traed (i gynrychioli nodau uchel) ac yna yn cwtsho lawr i gynrychioli’r nodau isel, cymryd camau mawr neu gamau bach, dangos teimladau hapus a drist, ayb. Anhygoel!
Roedd yn hollol wefreiddiol i glywed plant o ben draw’r byd yn canu yn y Gymraeg! Dyma griw o blant iau Ysgol Trelew yn mwynhau gydag athro a cherddor lleol dawnus ac yn canu “Tyrd am dro i’r coed” gan Dafydd Iwan. Roedd balchder mawr wrth ddathlu Cymreictod ym mhob ysgol ac roedd athrawon yn gweithio’n galed iawn i atgyfnerthu’r neges hyn trwy ganu, dawnsio gwerin, adrodd ac actio trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd pawb yn brysur yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod fawr ddiwedd y mis ac yn mwynhau’r ymarferion, yn ystod y gwersi ac ar ôl ysgol hefyd! Teimlaf fod yr ymdeimlad o berthyn yn bwysig iawn i’r Cymry ym Mhatagonia ac mae hyn yn bwydo’r diwylliant cyfoethog.


