21 Hyd 2021

Tendr: Iechyd a Lles

Yn ystod y pandemig, darparwyd ystod eang o hyfforddiant, sesiynau gwybodaeth, adoddau i staff ac aelodau er mwyn eu helpu a’u cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Darparwyd hefyd sesiynau 1:1 i’r sawl oedd yn dymuno cael cefnogaeth mwy dwys, ac mae mynediad at wasnaeth cwnsela ar gael bob amser petai staff angen cyngor proffesiynol.
Gwnaed addasiadau dros dro i drefniadau gweithio arferol, a cyfathrebwyd yn rheolaidd â phawb ynglyn â newidiadau a rheoliadau wrth i’r cyfnod fynd rhagddo. Mae trefniadau hybrid gweithio o adra anffurfiol ac o’r swyddfa yn creu gwell balans gwaith-bywyd personol i nifer fawr ohonom, ac mae technoleg gwybodaeth yn caniatau llai o deithio i gyfarfodydd.
Mae Mudiad Meithrin yn dymuno parhau ac adeiladu ar y sail gref hon wrth gefnogi iechyd a lles ei staff gan weithio i roi strwythur mwy ffurfiol i’r gefnogaeth a ddarperir eisioes.
Bydd y gwaith yn cyfrannu at adfer ac ailadeiladu yn sgil effeithiau’r pandemig. Bydd yn sicrhau ein bod yn ymateb yn rhagweithiol i faterion sy’n ymwneud â neu’n dylanwadu ar iechyd meddwl a lles cyffredinol, ac wrth ini ddychwelyd i arferion gweithio mwy cyfarwydd yn sicrhau fod cefnogaeth bwrpasol ac ymarferol yn ei lle.

Gellir gweld y briff llawn yn y ddogfen isod a mae angen anfon unrhyw gynnig atom erbyn 12yp ar y 12fed o Dachwedd. 

Dogfen dendro Iechyd a Lles

Lawrlwytho