Rhodd mewn ewyllys gan y diweddar Dr Robin Okey
Fel Mudiad sy’n angerddol am roi’r cychwyn gorau i bob plentyn yng Nghymru ry’n ni’n ddiolchgar iawn am bob rhodd a chymynrodd a gawn gan fod pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth i’n gwaith ar lawr gwlad. Yn ddiweddar fe dderbyniodd y Mudiad gymynrodd gan y diweddar Dr Robin Okey a chafwyd dathliad arbennig i gofio amdano yng Nghanolfan Gynadledda Scarman, Prifysgol Warwick dros y penwythnos. Gwahoddwyd cynrychiolaeth o Mudiad Meithrin a RhAG i fod yn rhan o’r digwyddiad. Rhannwyd atgofion amdano gan ei gymdogion a’i gydweithwyr gan orffen gyda thrafodaeth am ei waith a’i waddol i’w faes academaidd sef Hanes ac yn enwedig ei gyfrol ddiwethaf ardderchog sydd yn cymharu Cymru gyda Slofenia, a oedd mor agos i’w galon. Rydym yn ddiolchgar am ei waith ar hyd ei fywyd a’r gwaddol y mae’n ei adael.
Diolch i Elin Maher – aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin am ein cynrychioli yn y digwyddiad arbennig yma.