Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Dyma gasgliad o adnoddau, canllawiau, taflenni wybodaeth fydd efallai o ddefnydd i chi wrth i chi ymdopi gyda gofynion y cwricwlwm.

Dathlu’r cwricwlwm   

Dyma adnodd newydd sy’n cyflwyno prif elfennau’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Cyfres o sgyrsiau gydag ymarferwyr sy’n rhannu eu profiadau o roi’r cwricwlwm ar waith. Mae’r adnodd yn cael ei rannu’n chwe rhan – fformat hwylus ar gyfer trafod un rhan ar y tro, naill ai mewn cyfarfod tîm neu’n eich amser eich hun.

I dderbyn copi o’r adnodd, cliciwch yma.

I wylio’r clipiau fideo, cliciwch ar y fideo penodol isod:

I dderbyn copi o’r adnodd, cliciwch ar y isod.

Cyflwyniad

Enghreifftiau 

Templed

Dehongliad o’r trefniadau asesu

Bydd yr adnodd yma yn eich cefnogi i ddeall sut, pam, ble a phryd i arsylwi ac asesu cynnydd plant a sut i ddilyn y proses o sylwi, dadansoddi ac ymateb i’w diddordebau.

I dderbyn copi o’r pecyn hwn, cliciwch yma.

Dyma’r pwerpwynt ar gyfer y sesiwn asesu a chynllunio.

Rhan 1

Rhan 2

 

Dyma adnodd newydd gan Mudiad Meithrin ac awdurdod lleol Powys ar ‘Cynefin’. Fe fydd yr adnodd yma yn eich cefnogi wrth ddehongli ystyr ‘Y man lle rydyn ni’n teimlo’n ein bod yn perthyn’ a sut gall hwn edrych i blant bach. Rydym wedi cynnwys caneuon, profiadau, llyfrau a geirfa Cymraeg sylfaenol.

I dderbyn copi o’r pecyn hwn cliciwch ar y poster uchod.

 

Mae defnyddio adnoddau naturiol, penagored yn gwella datblygiad dychymyg, creadigrwydd a chwilfrydedd. Mae darnau rhydd yn wrthrychau naturiol fel canghennau, cerrig a choncers neu ddeunyddiau a wnaed gan ddyn fel teiars, pibellau a botymau. P’un a ydynt yn fawr neu’n fach, gall plant eu symud, eu cyfuno, eu tynnu’n ddarnau, eu hail-ddylunio, neu eu trawsnewid

Cliciwch isod i weld y daflen ar ‘Darnau Rhydd, Chwarae Di-derfyn’.

Perthyn yw adnodd caredig i ymarferwyr blynyddoedd cynnar, yn eich tywys i greu amgylcheddau meithrin lle mae pob plentyn yn teimlo’n annwyl, yn werthfawr ac yn wirioneddol adref. Gyda mewnwelediad cydymdeimladol, mae’r adnodd hwn yn eich helpu i gefnogi plant i dyfu eu hyder, eu hunaniaeth, a’u cysylltiad o’r dechrau cyntaf.

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Gwneud Mathemateg yn Bwrpasol ac Ystyrlon

Dyma rhan gyntaf o adnodd newydd sy’n archwilio cysyniadau mathemategol ac yn trafod sut i gyflwyno’r cysyniadau hyn i blant bach. Bydd ail ran yr adnodd yn archwilio’r cysyniadau hyn yn fanylach ac yn rhannu arfer da o leoliadau Mudiad Meithrin. Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth.

Cliciwch ar y posteri i’w lawrlwytho.

 

 

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

 

Cyflwyniad i ddulliau addysgeg

Efallai eich bod wedi clywed y term ‘addysgeg’ sawl gwaith. Cyfeirir ato sawl gwaith yn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Diffinnir y term addysgeg yn y cwricwlwm fel:

‘Y dull neu’r arfer o addysgu’

Pan fyddwn yn siarad am addysgeg yn y blynyddoedd cynnar, rydym yn golygu ‘sut’ yr ydym yn dysgu, neu’r holl bethau sy’n galluogi oedolion i feithrin dysgu a datblygiad plant.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Oedolyn sy’n galluogi – mae perthynas gynnes, ymddiriedus gydag oedolion gwybodus yn cefnogi dysgu plant yn fwy effeithiol nag unrhyw faint o adnoddau. Gall ymarferydd gwybodus benderfynu pryd i sefyll yn ôl, pryd i ryngweithio, a beth i’w gynnig i’r plentyn.

 

  • Amgylchedd effeithiol – mae’r amgylchedd rydyn ni’n ei greu yn ein lleoliad, tu fewn a thu allan, yn ganolog i brofiadau dilys plant. Dylem fonitro ac adolygu effeithiolrwydd yr amgylchedd yn barhaus ac addasu yn unol â hynny. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae archwilio’r amgylchedd yn sbardun allweddol ar gyfer datblygu. Trwy archwilio eu hamgylchedd, mae plant yn dechrau datblygu ymdeimlad o berthyn a gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas.

 

  • Profiadau sy’n ennyn diddordeb – dylai’r profiadau a gynigiwn yn y blynyddoedd cynnar fod yn ymarferol, yn bwrpasol ac yn ystyrlon i’r plentyn. Dylent annog annibyniaeth plant, cynnig risg, her a chyfleoedd i brofi llwyddiant ar hyd y daith ddysgu. Dylent gael eu gwreiddio mewn cyd-destunau go iawn, dilys, er mwyn ennyn diddordeb plant mewn lefelau dwfn o gyfranogiad a chyfnodau hir o ddysgu gweithredol, di-dor.

Mae egwyddorion addysgeg effeithiol wedi’u hymgorffori drwy’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Mae angen i ni sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn darparu cyfleoedd cyson i brofi’r canlynol:

  • chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae – mae chwarae’n hawl sylfaenol i bob plentyn. Mae ganddyn nhw angen cynhenid cryf i chwarae. Trwy chwarae a phrofiadau chwareus, mae plant yn dod o hyd i ffyrdd o archwilio amrywiaeth o emosiynau a dysgu am y byd y maent yn byw ynddo.
  • bod y tu allan – mae bod yn y tu allan yn arbennig o bwysig i blant ifanc. Mae’n cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, yn ogystal â lles.
  • dysgu dilys a phwrpasol – bydd profiadau perthnasol ac ystyrlon sydd wedi’u gwreiddio mewn cyd-destunau bywyd go iawn yn galluogi plant i wneud cysylltiadau, cymhwyso gwybodaeth a sgiliau cydgrynhoi. Gall profiadau bywyd go iawn alluogi plant i arwain wrth ofyn cwestiynau, nodi problemau, mentro a dod o hyd i atebion.
  • llythrennedd corfforol – mae’n hanfodol ein bod yn gosod sylfeini llythrennedd corfforol yn y blynyddoedd cynnar trwy fodelu agweddau cadarnhaol tuag at symud a darparu amgylchedd sy’n rhoi cyfle i blant archwilio, ymarfer a chyfuno ystod eang o symudiadau corfforol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Mae llawer o ddamcaniaethwyr blynyddoedd cynnar wedi datblygu gwahanol addysgeg – efallai y bydd eich Cylch Meithrin/meithrinfa ddydd yn penderfynu mabwysiadu addysgeg benodol. Mae bob amser yn werth ymchwilio a darllen am yr addysgeg y mae gennych ddiddordeb ynddo gan y bydd hyn yn sicrhau eich bod yn ei ddewis i fod o fudd uniongyrchol i’r plant rydych yn gofalu amdanynt. Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau addysgeg canlynol o fewn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a’i addasu at eich lleoliad eich hun.

** Nid yw Mudiad Meithrin yn cymeradwyo unrhyw ddulliau addysgeg penodol. Rydym wedi cynnwys rhai enghreifftiau at ddibenion gwybodaeth yn unig.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Judith Grigg BEd (Anrh) MAEd, Swyddog Arweiniol Dysgu Sylfaen.

judith.grigg@meithrin.cymru

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch uchod.

Mae’r astudiaeth achos hon wedi’i dylunio i fynd â chi ar daith fyfyriol ar sut i newid eich ymarfer i ddull a arweinir yn fwy gan y plentyn. Darllenwch sut mae un cylch wedi newid y ddarpariaeth a symud oddi wrth ddefnyddio adnoddau plastig mewn amgylcheddau llachar, gorysgogol i ddefnyddio adnoddau pwrpasol, naturiol a’r effaith y mae’r amgylcheddau niwtral wedi’u cael ar y plant yn eu gofal.

Cliciwch ar y astudiaeth achos i weld mwy.

Yn y byd hwn sy’n cael ei yrru gan dechnoleg mae’n hawdd anghofio buddion natur. Mae’r adnodd hwn yn rhoi awgrymiadau ar ba brofiadau y gallwch eu darparu er mwyn dod â byd natur i fywydau eich plentyn/plant; gan ganolbwyntio ar y manteision o wneud felly, a sut i ddarparu profiadau ym myd natur hyd yn oed os ydych wedi’ch lleoli mewn ardal adeiledig.

Cliciwch isod i weld y daflen ar ‘Manteision Chwarae Natur’.

Gall chwarae â mwd edrych yn flêr, ond mae’n cynnig profiadau datblygiadol gwerthfawr. Mae’n fath o chwarae synhwyraidd a dychmygus sydd yn hynod o fuddiol i blant ifanc.

Yn yr adnodd hwn rydym yn archwilio rôl y galluogwyr, y sgemâu a manteision chwarae â mwd, ac yn awgrymu sut i ddarparu profiadau mwdlyd mewn ffordd ddiogel, a sut y gallech ystyried hyn yn eich asesiadau risg.

Cliciwch isod i weld y daflen ar ‘Manteision chwarae mwd’.

Mae chwarae diodion yn fath o chwarae synhwyraidd a dychmygus sydd yn hynod o fuddiol i blant ifanc. Yn yr adnodd hwn, rydym yn archwilio rôl y tri galluogwr a sgemâu mewn chwarae diodion, ac yn awgrymu sut i ddarparu profiadau chwarae diodion mewn ffordd ddiogel a chyffrous.

Cliciwch isod i weld y daflen ar ‘Manteision chwarae diodion’.

Boed hynny’n neidio mewn pyllau, gwasgu toes, cymysgu paent â bysedd neu archwilio mwd, mae chwarae blêr yn caniatáu i blant ymgysylltu â’u hamgylchedd gan ddefnyddio eu synhwyrau. Gall plant archwilio deunyddiau’n rhydd heb ganlyniad penodol mewn golwg – y broses sy’n bwysig! Yn yr adnodd hwn rydym yn archwilio rôl y galluogwyr, y sgemâu a manteision chwarae blêr, ac yn awgrymu sut i ddarparu profiadau blêr mewn ffordd ddiogel, a sut y gallech ystyried hyn yn eich asesiadau risg.

Cliciwch isod i weld y daflen ar ‘Manteision chwarae blêr’.

Cliciwch isod i weld cerdyn post a poster ar ‘Miri Mawr’;

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen ‘Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn yr Hydref’

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen ‘Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn ystod y Gaeaf’;

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen ‘Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn ystod y Gwanwyn’;

Cliciwch ar y llun isod i weld y daflen ‘Pethau i’w gwneud gyda’ch plant yn ystod yr Haf’;