Addasiadau Rhesymol mewn Lleoliadau Meithrin: Cefnogi Plant â Nam ar y Golwg
Addasiadau Rhesymol mewn Lleoliadau Meithrin: Cefnogi Plant â Nam ar y Golwg
Gyda Guide Dogs Cymru
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin/ Meithrinfeydd Dydd/ phwyllgorau a gwirfoddolwyr
Mae Guide Dogs Cymru wedi llunio canllawiau ar addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wedi’u cynllunio i gefnogi athrawon i ddiwallu anghenion plant â nam ar eu golwg o fewn amgylchedd yr ysgol. Gellir addasu llawer o’r awgrymiadau hyn at anghenion plant yn y blynyddoedd cynnar.
Yn ystod yr hyfforddiant rhyngweithiol hwn, bydd Cath Lewis (Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd) a Branwen Jones (Rheolwr Sgiliau, Gwybodaeth a Gwasanaethau Cymorth dros Gymru) yn rhannu’r awgrymiadau hyn.
Bydd Branwen hefyd yn siarad am y sesiynau My Time to Play / Fy Amser i Chwarae y mae ei thîm yn eu trefnu. Mae’r rhain wedi’u hanelu at blant 0-4 oed sydd â nam ar eu golwg a’u rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd. Cyflwynir y sesiynau gan Arbenigwyr Sefydlogi Cymwysedig ac maent yn helpu plant â nam ar eu golwg i ddatblygu ystod eang o sgiliau drwy chwarae. Bydd Branwen hefyd yn rhannu sgiliau y byddwch wedyn yn gallu eu datblygu yn eich lleoliad.
Sesiwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Addasiadau Rhesymol mewn Lleoliadau Meithrin: Cefnogi Plant â Nam ar y Golwg
- Dyddiad Cau: 2025-01-21
- Amser: 18:00 - 19:00
- Lleoliad: Ar-lein