Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc) Meithrinfa Camau Bach
CeredigionGweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Cyfeiriad: Meithrinfa Camau Bach, Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Catrin Jones-Williams, Rheolwr Meithrinfa Camau Bach
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: Catrin.Williams@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: £12.71 yr awr.
Oriau: Oriau achlysurol yn ôl yr angen.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 06/05/2026