Penodi Aelodau Newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin
Yn ystod Cyfarfod Blynyddol Mudiad Meithrin nos Fawrth, 25ain Tachwedd, fe gadarnhawyd penodiad pedwar aelod newydd i ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin sef Lleucu Siencyn, Nia Wyn Jones, Sian Morgan Lloyd a Teresa Davies.
Daw Lleucu Siencyn o Dalgarreg yn wreiddiol gan ddechrau ei thaith addysgol trwy fynychu’r Cylch Meithrin lleol. Yn ystod ei gyrfa bu’n Brif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru am flynyddoedd ac yn 2024 ymunodd ag Adnodd fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni.
Meddai Lleucu: “Rwyf wrth fy modd o’r cyfle i fod yn un o ymddiredolwyr Mudiad Meithrin ac i gefnogi’r Mudiad yn eu gwaith hollbwysig dros blant Cymru.”
Mae Sian Morgan Lloyd, sy’n wreiddiol o Rydaman, yn Uwch Ddarlithydd sy’n gyfrifol am ddarpariaeth JOMEC Cymraeg yn Ysgol Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn gweithio fel Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi yn S4C cyn hynny. Fel newyddiadurwr a gohebydd profiadol, mae Sian yn cynnig ystod o sgiliau i’r Bwrdd.
Daw Nia Wyn Jones o Ynys Môn. Bu’n gweithio fel Swyddog Iaith gyda’r Mudiad tra bu’n astudio ar gyfer gradd Meistr ym Mhrifysgol Bangor a bellach mae’n diwtor Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
Meddai Nia: “Braint o’r mwyaf yw cael fy nerbyn fel aelod o’r Bwrdd. Mae gwreiddio’r Gymraeg yn ddwfn mewn addysg blynyddoedd cynnar yn hanfodol a byddaf yn defnyddio fy mhrofiad i helpu’r Bwrdd gyda’r heriau sydd yn wynebu’r iaith o ddydd i ddydd.”
Gweithio mewn ysgol gynradd Gymraeg a gyda’r Mudiad roedd Teresa Davies cyn ymuno â Phrifysgol Wrecsam. Cyn hynny bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn swyddfa Cofnodion Sir y Fflint. Graddiodd Teresa yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2025 ac mae hi’n frwd dros gefnogi dysgwyr ar eu taith i ddod yn siaradwyr hyderus.
Meddai Leanne Marsh, Prif Weithredwr dros dro Mudiad Meithrin:
“Mae’n bleser gweld grŵp o unigolion mor dalentog yn ymuno gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin. Mae cyfraniad gwirfoddolwyr wrth galon gwaith y Mudiad boed ar lefel genedlaethol neu ar lawr gwlad ac mae’n bleser felly i groesawu Lleucu, Nia, Sian a Teresa i’n plith i wasanaethu fel aelodau o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr. Bydd eu profiad a’u harbenigedd yn gaffaeliad mawr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw.”
Gweler y wefan am fywgraffiadau llawn o’r 4 Aelod newydd yma.