Mae Academi, braich hyfforddiant y Mudiad Meithrin yn dathlu 10 mlynedd mis Ionawr.
Dechreuwyd Academi yn dilyn yr angen i ddarparu cyfleoedd dysgu, datblygu a hyfforddi i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n rhan o gymuned Mudiad Meithrin. Rydym bellach yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein / wyneb yn wyneb, cynadleddau ac adnoddau dysgu pwrpasol i gefnogi gwaith ein haelodau.
Ers 2016 mae Academi wedi darparu dros 1,300 o gyrsiau, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda dros 18,000 o bobl wedi elwa o’r hyfforddiant.
Dywedodd Carys Gwyn, Pennaeth Adran Iaith a Hyfforddiant (dros dro):
“Penblwydd Hapus i Academi yn 10 oed! Wrth ddathlu’r garreg filltir hon, rydyn ni’n falch o’n hymrwymiad parhaus i ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf i’n haelodau a’n gwirfoddolwyr. Gyda hyfforddwyr blaenllaw wrth ein hymyl, rydyn ni’n parhau i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i Gymru heddiw, gan gyfrannu’n falch at nod #Cymraeg2050 o filiwn o siaradwyr. Edrychwn ymlaen at ddarparu mwy o gyfleon hyfforddiant yn y deng mlynedd nesaf.”