Lleoliad: CYLCH MEITHRIN PORTHCAWL, FFESTRI TABERNACL, 18 FENTON PLACE, PORTHCAWL
Mae Cylch Meithrin Porthcawl yn leoliad newydd sydd yn gobeithio agor ar ôl gwyliau Pasg.
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Fel arweinydd hefyd, os nad oed Lefel 5 gyda chi, bydd disgwyl i chi wneud y cwrs am ddim drwy cynllun Cam wrth Gam, Mudiad Meithrin.
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Cyflog: £15 yr awr
Oriau: 22.5 awr yr wythnos. 8.30-12.30 Llun i Gwener (2.5 awr yr wythnos i gynllunio)
Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Llinos Haf ar llinos.haf@meithrin.cymru neu 07971 80501.
Dyddiad Cau: 22/05/2026