Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol

Lleoliad: Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed, Commercial Street, Gilfach Fargoed, CF81 8JG

Mae’r cylch meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y cylch.  Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar Lefel 4 neu Lefel 5 ynghyd â phrofiad perthnasol.  Os nad oes gennych Lefel 5, disgwylir i chi gwblhau hwn drwy Cam wrth Gam Mudiad Meithrin.

 

Manylion y Swydd

Cyflog: £16.20 yr awr

Oriau: 32.5 awr yr wythnos, 9am-3.30pm, Llun-Gwener, tymor ysgol yn unig

Manylion cymwysterau

Gweler uchod

Gwybodaeth Ychwanegol

Am fanylion pellach cysylltwch a:
Kate Jenkins 07847 248430 neu’r pwyllgor ar cmtt.committee2022@gmail.com

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 16/03/2026