Gwobrau 2026
Gwobrwyo a dathlu’r holl waith da a wneir gan staff a gwirfoddolwyr yn eich cymunedau.
Mae’r cyfnod enwebu yn agor ar y 21 o Ionawr a’r seremoni yn cael ei chynnal ar Hydref 17.
Eleni mae 11 categori gwobr.
I enwebu person neu gylch, llenwch y ffurflen enwebu isod gan nodi pam eu bod yn haeddu ennill. Os ydych chi am enwebu person neu grŵp ar gyfer mwy nag un categori, bydd angen i chi lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob categori. Gallwch uwchlwytho uchafswm o 5 llun i gefnogi eich enwebiad. Byddwn yn defnyddio’r lluniau hyn ar gyfer Gwobrau Mudiad Meithrin (e.e. ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati) felly mae’n bwysig i chi sicrhau bod y caniatâd hwn ar waith ar gyfer unrhyw luniau. Hoffem dderbyn lluniau ar ffurf ‘tirlun’ os yn bosibl.
Dyddiad cau enwebiadau 23/3/2026
Beth am fynd ati i enwebu? Mae’n broses hawdd ac mae croeso i bawb enwebu unrhywun, gallwch enwebu eich hunain hefyd.
Enwebwch yma
Canlyniadau Gwobrau 2025


