Arweinydd Prosiect Digidol

Arweinydd Prosiect Digidol
Sianel Gymunedol YouTube Dewin a Doti
Yn sgil llwyddiant cais Mudiad Meithrin am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2023, rydym wedi sefydlu sianel YouTube Dewin a Doti i greu amrywiaeth o fideos addysgiadol, amrywiol a llawn hwyl i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.
Arweinydd Prosiect Digidol - £33,530 - £36,532
Rydym yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig, a chreadigol i arwain y prosiect cyffrous hwn i barhau i gynhyrchu a datblygu cynnwys i sianel YouTube Dewin a Doti. Byddwch yn gweithio gyda staff, teuluoedd a chymunedau amrywiol ar hyd a lled Cymru i gyd-gynhyrchu fideos addysgiadol, amrywiol a hwyliog sy’n addas i blant bach a’u teuluoedd.
Dyddiad cau: 13.00, 11 Mai 2026
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Mae croeso i chi gysylltu ag Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau i drefnu sgwrs anffurfiol am y swydd – iola@meithrin.cymru
Ariennir y swydd uchod gan grant y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am gyfnod penodol hyd at 31.03.2027
Cyflog: MM25 - MM28 - £33,530-£36,532 y flwyddyn
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos). Cytundeb cyfnod penodol hyd at 31.03.2027
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 11/05/2026
Dyddiad Cyfweliad: 14/05/2026