Adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gymunedau sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg
Comisiwn cymunedau Cymraeg: adroddiad yr ail gam | LLYW.CYMRU
“Mae’r Gymraeg yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i bob un ohonom – waeth pwy ydym, ble rydym yn byw, neu faint ohoni y gallwn ei siarad”. A’n hymateb yn ein cynllun Strategol Meithriniaith i hyn ydy – “Y Gymraeg yw dechrau a diwedd ein gwaith: ein gweledigaeth fel Mudiad yw y dylai bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i chwarae, dysgu a thyfu trwy gyfrwng y Gymraeg gan dyfu’n siaradwr Cymraeg hyderus.”
Rhaid nodi ein bod yn cytuno mai Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 a’i pholisïau fydd yn arwain ar ein prif waith yn ymwneud a sicrhau sylfaen gadarn i’r iaith yn y blynyddoedd cynnar ac mae’n gwaith yn parhau i ymateb i ‘Cymraeg 2050’. Er nad yw’r blynyddoedd cynnar yn rhan o drafodaeth y ddogfen hon yn benodol (er yn cydnabod ein bod yn gwbl ganolog i gynaliadwyedd hirdymor yr iaith) mae’n gwaith fel Mudiad Meithrin, yn ehangach o fewn y cymunedau yn sicr yn haeddu sylw yma.
Magu o fewn Cymuned
Pan sefydlwyd y Mudiad dros 50 mlynedd yn ôl daeth cymunedau o rieni a gwirfoddolwyr at ei gilydd i sicrhau fo’r Gymraeg ar gael ac i’w chlywed ac i’w defnyddio ar lawr gwlad. Bellach mae’n gwaith cymunedol wedi ehangu’n sylweddol gyda Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Clwb Cwtsh, yn cynnig y gofodau saff hynny i rieni / gwarchodwyr nad ydynt wedi mentro troedio tuag at y Gymraeg cyn hynny. Maent yn gyfle i rieni a fynychodd Addysg Gymraeg fel plentyn, ond sydd wedi pellhau o ddefnyddio’r Gymraeg, i ail gydio a chodi hyder a chreu gofodau saff eu hunain gydag eraill o’r un anian. Cynigir yma’r cyfle i sicrhau fo’r Gymraeg yn iaith sy’n berthnasol yn cael ei defnyddio a’i throsglwyddo yng nghyd-destun diwylliant ac iaith y gymdogaeth.
Mae pawb yn perthyn
Mae drws ein Cylchoedd Meithrin yn llydan agored ac yn chwarae rhan amhrisiadwy o fewn ein cymunedau. Gwelir ôl gwaith y cannoedd o wirfoddolwyr a gweithwyr o fewn y cylchoedd sydd wedi sicrhau fo’r plant nid yn unig wedi cael y cyfle i feithrin y Gymraeg ond eu bod yn sgil hynny wedi creu hybiau i’r teulu ehangach o fewn y cymunedau hynny. Maent wedi agor drysau i ddiwylliannau amrywiol a chreu gwasanaethau sy’n hygyrch a holl gynhwysol o’r cychwyn cyntaf i sicrhau fo pob teulu’n rhan annatod o’r gymuned Gymraeg honno.
Gweithlu Cymraeg – pwrpas i’r Gymraeg
Does dim yn rhoi gwell pwrpas i unrhyw beth na’i ddefnydd. Gyda Chylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru yn frwd am staff sy’n siarad yr iaith, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol sicrhawyd bod ein staff – boed yn newydd i’r Gymraeg – yn ail ymweld â’r Gymraeg – neu yn dymuno cryfhau eu sgiliau Cymraeg â’r gallu i wneud hynny drwy gyrsiau Camau. Mae pwrpas a defnydd yn ddylanwad cryf gydag oedolion nad oedd wedi meddwl rhannu’r iaith a’u plant: yr oedolion nad oedd wedi siarad y Gymraeg ers dyddiau ysgol, wedi’i eu ymbŵeru i fod yn oedolion sydd bellach yn teimlo’n rhan o gymuned a diwylliant ehangach ac sy’n defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r lleoliad gwaith.
Ein plant yn 2050
Bydd plant ein darpariaethau yn 2026 yn eu hugeiniau yn 2050 a rhaid sicrhau na fydd yr un hen olwyn yn troi. Mae’r cyfnod rhwng y ddarpariaeth gynnar yna a’u defnydd o’r Gymraeg fel oedolyn yn fregus o fewn y gymuned a thu allan i fyd addysg ac mae buddsoddiad yn hanfodol yn enwedig yn y cymunedau sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg. Rhaid adeiladu ar y sylfaen sy’n bodoli gyda’r rhai sydd wedi torri’r cwys yn barod.
Mae Mudiad Meithrin mewn lle cadarn i dyfu, gwella, dylanwadu, ysbrydoli a grymuso ein cymuned ni – ond â rhan annatod ar hyd a lled Cymru i gynnig y cam cyntaf yna at y Gymraeg i’r cymunedau hynny’n ehangach. Ble bynnag mae ‘na blant bach yng Nghymru yna dylai Mudiad Meithrin – ac felly’r Gymraeg – hefyd fod yno.