Newyddion da i ffrindiau bach Dewin a Doti! Mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi mai’r Welsh Whisperer fydd yn serennu gyda Dewin a Doti eleni fel rhan o Daith Gŵyl Dewin a Doti fydd yn teithio o gwmpas Cymru rhwng Mehefin 4 a 3 Gorffennaf 2026.

Bydd y daith yn cael ei lansio’n swyddogol am 11.30, fore Sadwrn 23ain Mai ym Mhabell yr Adlen ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn yng nghwmni’r Welsh Whisperer a channoedd o blant o Gylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd Ynys Môn.

Mae Taith Dewin a Doti yn ŵyl deithiol sy’n digwydd bob blwyddyn ar hyd a lled Cymru.
Ar y Fferm’ yw teitl y sioe eleni wrth i’r Welsh Whisperer ymweld â fferm Tad-cu gan helpu i chwilio am anifeiliaid sydd ar goll gyda help Dewin a Doti wrth gwrs!

Mae’r sioe yn llawn antur hwyliog, dawnsio a digon o ganeuon gan gynnwys caneuon gwreiddiol y Welsh Whisperer e.e. ‘Ni’n Beilo nawr’, ffefrynnau Dewin a Doti a chaneuon traddodiadol Cymraeg e.e. ‘Dau Gi Bach’ a ‘Triawd y Buarth’. Mae’r sioe wedi ei hanelu at blant 0 – 7 oed a’u teuluoedd ac mae’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd yn ogystal â siaradwyr Cymraeg hyderus.

Mae’r Welsh Whisperer, sef Andrew Walton, yn wyneb a llais cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar draws Cymru ond dyma’r tro cyntaf iddo gydweithio gyda Mudiad Meithrin gan arwain Taith Dewin a Doti. Yn wreiddiol o bentref Cwmfelin Mynach, Sir Gaerfyrddin, mae’r diddanwr canu gwlad bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon.

Meddai Andrew:
“Rwy’n yn edrych ymlaen yn fawr iawn at deithio Cymru yn diddanu cynulleidfaoedd ifanc o blant a’u teuluoedd o Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd. Fel rhiant i blant ifanc rwy’n llwyr ymwybodol o bwysigrwydd cyflwyno’r iaith Gymraeg o oedran ifanc mewn ffordd hwyliog a bywiog.”

Meddai Medi Jones-Jackson, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Mudiad Meithrin:
“Ry’n ni’n falch iawn fod y Welsh Whisperer yn rhan o’r daith eleni ac yn edrych ymlaen at weithio ag o i gyflwyno’r sioe. Mae Gŵyl Dewin a Doti yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau’r Cylchoedd Meithrin erbyn hyn ac mae’n ffordd wych o ddod â’r Gymraeg yn fyw, yn enwedig i deuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad yn y cartref.

Mae caneuon y sioe i gyd i’w clywed ar Spotify felly gall y plant a’u teuluoedd ymgyfarwyddo â’r caneuon ymlaen llaw a pharhau i’w mwynhau ar ôl ymweld â’r sioe.”

Bydd y sioe yn cael ei chynnal ledled Cymru gan ymweld ag Y Barri, Llys y Frân, Bangor, Pwllheli, Dinbych, Wrecsam, Machynlleth, Llanarthne, Llwyncelyn (ger Aberaeron), Ystalyfera a Chasnewydd. Bydd disgwyl i filoedd o deuluoedd ymweld â’r sioe yn ystod y daith.