Sut Gall ‘Creadigrwydd’ Gefnogi Llythrennedd
Sut Gall ‘Creadigrwydd’ Gefnogi Llythrennedd
o dan arweiniad y fenter greadigol Dwylo Bach
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd
Yn y cwrs hwn, byddwn yn archwilio’r berthynas rhwng creadigrwydd a llythrennedd, gan ddefnyddio gwaith yr artist Cymreig Paul Eastwood fel ein prif ysbrydoliaeth. Mae dull dychmygus Eastwood o adrodd straeon trwy gelf yn cynnig persbectif unigryw ar sut gall creadigrwydd wella dysgu llythrennedd, yn enwedig i blant ifanc.
Byddwn yn trafod:
- Sut i drawsnewid syniadau artist i greu gwahoddiadau chwarae sy’n rhyngweithiol, cynhwysol, yn synhwyraidd ac yn meithrin llythrennedd
- Yr offer a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen i integreiddio creadigrwydd yn eu rhaglenni llythrennedd, gan gyfoethogi profiad addysgol dysgwyr ifanc
- Pa mor berthnasol yw’r dull hwn am fod Estyn yn canolbwyntio ar lythrennedd fel agwedd ganolog ar addysg yng Nghymru.
Bydd cyfle i bawb sy’n mynychu ENNILL BOCS O ADNODDAU CREADIGOL, wedi’i baratoi gan Dwylo Bach, ar gyfer eich lleoliad!
Sesiwn ddwyieithog.
Sut Gall 'Creadigrwydd' Gefnogi Llythrennedd
- Dyddiad Cau: 2026-07-14
- Amser: 18:30 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein