Tiwtor Asesydd Cynllun Ysgolion Cam Wrth Gam (dros gyfnod mamolaeth)- Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
CaerdyddYdych chi’n frwdfrydig am addysgu plant a chwarae rôl allweddol yn eu datblygiad? Rydym yn chwilio am berson cymwys i ddysgu ac asesu cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 Ymarfer a Theori (GChDDP).
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, ymgeisiwch heddiw!
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol, neu
Amy Sefton, Prif Swyddog Cynllun Cam Wrth Gam De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 07791 519144 / 07977 641517
E-bost: eunice.jones@meithrin.cymru / amy.sefton@meithrin.cymru
Cyflog: MM18 – MM22 - £26,925 - £30,350 y flwyddyn
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Gweler swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 31/05/2026
Dyddiad Cyfweliad: 04/06/2026