Yn ôl i'r rhestr swyddi

Tiwtor / Asesydd dan Hyffoddiant Cynllun Ysgolion Cam Wrth Gam (dros gyfnod mamolaeth) – Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Caerdydd
Gwybodaeth Gyffredinol

Ydych chi’n frwdfrydig dros hyfforddi, asesu a datblygu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?

Rydym yn chwilio am berson cymhellol a phroffesiynol i hyfforddi fel Tiwtor / Asesydd ar gyfer cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant  Lefel 2/3 Ymarfer a Theori (GChDDP).

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol, neu

Amy Sefton, Prif Swyddog Cynllun Cam Wrth Gam De Ddwyrain

Rhif Ffôn: 07791 519144 / 07977 641517

E-bosteunice.jones@meithrin.cymru / amy.sefton@meithrin.cymru

Manylion y Swydd

Cyflog: MM17 £26,225 y flwyddyn

Oriau: 37.5 awr yr wythnos

Manylion cymwysterau

Gweler swydd ddisgrifiad

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 31/05/2026

Dyddiad Cyfweliad: 04/06/2026